37 awr yr wythnos
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig cyfle gwych i ddatblygu eich gyrfa ym maes gwaith cymdeithasol. Rydym am i'r Gweithwyr Cymdeithasol gorau ymuno â ni i asesu a chynorthwyo'r plant a'r teuluoedd ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Rydym newydd gwblhau ailstrwythuro er mwyn sicrhau amrywiaeth ehangach o lwybrau i blant â phrofiad o fod mewn gofal. Mae hyn wedi arwain at greu 4 tîm rheoli achosion llai a bydd dull seiliedig ar gryfderau yn sail i hyn o fewn amgylchedd cydweithredol a chefnogol. Rydym bellach yn recriwtio gweithwyr cymdeithasol i'w lleoli yn ein Tîm Plant â Phrofiad o fod mewn Gofal newydd. Bydd y tîm hwn yn gweithio gyda phlant â phrofiad o fod mewn gofal ar ôl gweithrediadau gofal a phobl ifanc hyd at 16 oed.
Rydym yn sefydliad myfyriol sy'n adeiladu ar ei gryfderau yn barhaus ac sy'n ymrwymedig i'r egwyddor mai'r ffordd fwyaf effeithiol o wella canlyniadau i'r holl Blant, Pobl Ifanc a Theuluoedd yw drwy ddarparu gwasanaethau hygyrch, cyffredinol. Ymunwch â ni a byddwch yn gweithio mewn amgylchedd dysgu gwerth chweil lle mae'r staff yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi.
Aeth ein canolfan MASH (Canolfan Ddiogelu Amlasiantaeth) yn fyw ym mis Ebrill 2018. Mae hyn yn ymgorffori gofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ochr yn ochr â diogelu ein plant a'n hoedolion mwyaf agored i niwed.
Mae ein gwasanaethau cymorth wedi'u targedu i deuluoedd wedi'u cyd-leoli â'n timau ardal, i ddarparu continwwm o wasanaethau yn amrywio o gymorth cynnar i ddarpariaeth ddwys i deuluoedd ag anghenion cymhleth. Maent wedi'u lleoli mewn tair canolfan gymunedol ledled y fwrdeistref. Yn ogystal, mae gennym dimau sy'n cynnig arbenigedd mewn perthynas â Phlant ag Anableddau a Phobl Ifanc 16 oed a hŷn y mae ganddynt hawl i wasanaethau gadael gofal.
Yn 2020 lansiodd Gofal Cymdeithasol Plant y model Gwaith Cymdeithasol sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau sy'n sail i'n holl arfer ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Bydd yr holl staff newydd yn cael cyfres o hyfforddiant a fydd yn eu cynorthwyo i ddatblygu eu harfer yn unol ag egwyddorion y model. Rydym yn annog ceisiadau gan Weithwyr Cymdeithasol profiadol a'r rhai yn eu dwy flynedd gyntaf o wasanaeth. Yn gyfnewid byddwch yn cael cyfnod sefydlu cadarn, goruchwyliaeth reolaidd, cymorth ychwanegol a mentora lle y bo angen. Gwnaeth ein rhaglen gymorth ar gyfer gweithwyr cymdeithasol newydd gymhwyso ennill gwobr ‘Datblygu gweithlu hyderus a chynaliadwy’ yng ngwobrau Gofal Cymdeithasol Cymru 2018. Yn ogystal byddwch yn gallu datblygu eich gyrfa ymhellach gyda chyfleoedd datblygu a hyrwyddo.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Dylai ymgeiswyr nodi y bydd yn angenrheidiol i'r ymgeisydd llwyddiannus gael gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
I gael rhagor o wybodaeth am weithio fel Gweithiwr Cymdeithasol Cymwys ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ffoniwch Iain McMillan ar 01656642346
Dyddiad Cau: Dydd Sul 8 Awst 2021
Cliciwch yma i weld y Disgrifiad Swydd & Manyleb Person
I ymgeisio am y swydd hon, cliciwch ‘Ymgeisio Ar-lein’