21 awr blynyddol yr wythnos
Gan ymuno â'n tîm staff presennol byddwch yn cyflenwi ar gyfer absenoldebau oherwydd gwyliau, salwch a hyfforddiant gan gynnwys sifftiau domestig, gofal a nos. Bydd angen ichi fod yn hyblyg oherwydd byddwch yn gyfrifol am ymgymryd â thasgau gofal personol o ansawdd uchel, dyletswyddau domestig cyffredinol, paratoi bwyd sylfaenol a'i weini a cheisio sicrhau diogelwch a chysur mwyaf posibl y preswylwyr.
Yn ddelfrydol, bydd gennych rywfaint o brofiad o ofalu am bobl hŷn. Nid yw cymwysterau ffurfiol yn hanfodol. Rhaid ichi fod yn hyblyg, yn ymrwymedig ac yn barod i ymgymryd â hyfforddiant priodol.
Byddwch yn gweithio yn unol ag anghenion y gwasanaeth. Bydd disgwyl ichi weithio ar Wyliau Banc a phenwythnosau a byddwch yn cael taliad uwch am hyn. Bydd angen i chi fod ar gael i weithio hyd at 35 awr yr wythnos pan fydd angen.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn gyfrifoldeb craidd i holl weithwyr cyflogedig y Cyngor.
Dylai ymgeiswyr nodi y bydd yn angenrheidiol i'r ymgeisydd llwyddiannus gael gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
Dyddiad Cau: Dydd Llun, 19 Hydref 2020.
Cliciwch yma i weld y Disgrifiad Swydd & Manyleb Person
I ymgeisio am y swydd hon, cliciwch ‘Ymgeisio Ar-lein’