21 awr wedi'u sicrhau ond gan weithio hyd at 35 awr yr wythnos
Dewch i ymuno â'n tîm yng Ngwasanaethau Preswyl i Bobl Hŷn Bryn y Cae yn Bracla, Pen-y-bont ar Ogwr
Os ydych yn berson cadarnhaol, gofalgar a llawn cymhelliant a hoffai helpu pobl, bydd croeso i chi yng nghartref preswyl Bryn y Cae. Rydym yn cefnogi pobl yn y cartref i gynnal eu hannibyniaeth, adennill, gwella a chynnal sgiliau byw bob dydd, darparu'r canlyniadau gorau i bobl y mae angen gofal a chymorth arnynt mewn amgylchedd diogel. Byddwch yn gweithio fel rhan o dîm gan gwmpasu rolau amrywiol fel dyletswyddau gofal cymdeithasol, domestig, cegin a nos. Byddwch yn cydweithio'n agos â nyrsys ardal, gweithwyr cymdeithasol, therapyddion a gweithwyr proffesiynol eraill ar draws y sector iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig cyfleoedd gwych i bobl sy'n dymuno gweithio yn y sector Gofal Cymdeithasol a byddwch yn cael cymorth i fynd ar hyfforddiant a datblygu eich dysgu ymhellach yn ogystal â chyfleoedd i gefnogi dilyniant gyrfa yn y sector.
Rydym yn chwilio am bobl sydd â gwerthoedd cadarn, sy'n gallu dangos parch, yn gallu cyfrannu at fywydau pobl a gwneud gwahaniaeth iddynt. Byddwch yn dda am wrando a bydd gennych sgiliau cyfathrebu da ac yn gallu gweithio fel rhan o dîm aml-sgiliau proffesiynol.
Dewch i ymuno â'n tîm ymroddedig, ymrwymedig a gwych.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Dylai ymgeiswyr nodi y bydd yn angenrheidiol i'r ymgeisydd llwyddiannus gael gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, ffoniwch Penny Griffiths, Rheolwr Preswyl ar 01656 815545 i gael trafodaeth anffurfiol.
Dyddiad Cau: Dydd Mercher 27 Hydref 2021
Cliciwch yma i weld y Disgrifiad Swydd & Manyleb Person
I ymgeisio am y swydd hon, cliciwch ‘Ymgeisio Ar-lein’