37 awr yr wythnos
A ydych yn unigolyn gofalgar, trefnus a allai arwain a chefnogi tîm anhygoel gyda sgiliau arweinyddiaeth tosturiol, yna hoffem siarad â chi! Rydym yn ceisio recriwtio Rheolwr Gofal Preswyl llawn cymhelliant a phrofiadol; rhywun sy'n ymrwymedig i rymuso unigolion sydd â dementia ac i gymryd rhan weithredol mewn dewisiadau a phenderfyniadau am eu gofal a'u cymorth.Bydd ffocws ar wasanaethau sy'n canolbwyntio ar y person ac yn cael eu harwain gan y person; datblygu cyfleoedd i bobl a'u teuluoedd gymryd rhan weithredol mewn prosesau ymgynghori a datblygu gwasanaethau. Rhywun a all arwain tîm staff sefydledig ac ymroddedig gyda dull arweinyddiaeth ysbrydoledig a hanes o ddatblygu ac ysgogi timau staff.
Rhaid i chi feddu ar brofiad blaenorol mewn rôl arweinyddiaeth a rheoli mewn lleoliad a reoleiddir, bod â dull ymarferol o ran gofal a chymorth, bod yn greadigol ac yn flaengar, a meddu ar wybodaeth dda am Safonau RISCA a chyfrifoldebau bod yn Rheolwr Cofrestredig gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC)
Os hoffech ein helpu i wneud gwahaniaeth dyma'r hyn y gallwn ei gynnig i chi: -
Cyflog cystadleuol yn amrywio o £41,418 - £43,421
Hawl i wyliau blynyddol hael
Cofrestru ar gyfer y cynllun pensiwn llywodraeth leol rhagorol
Rhaglen hyfforddi gynhwysfawr gyda chyfleoedd dysgu a datblygu
Rhaglen Cymorth i Gyflogeion sy'n cynnig mynediad am ddim i gyflogeion 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, 365 diwrnod y flwyddyn i gael cwnsela, cyngor ac arbenigwyr cymorth ar gyfer amrywiaeth o faterion yn ogystal â chymorth iechyd a llesiant.
Sawl cynllun gwobrwyo staff sy'n cynnig amrywiaeth o ostyngiadau ar-lein neu yn y stryd fawr ledled y wlad ac yn lleol.
Mynediad at y Cynllun Buddiannau Car sy'n cynnig car newydd sbon ar brydles, yswiriant, treth ffordd, teiars newydd, gwasanaeth MOT ac yswiriant cynnal a chadw a thorri i lawr am un taliad misol, yn ogystal â'r Cynllun Beicio i'r Gwaith
Gwersi Cymraeg am ddim
Bydd y rôl yn cynnwys cymryd yr awenau gyda gweithwyr proffesiynol eraill i sicrhau bod gofynion statudol yn cael eu bodloni ac yn cyflawni canlyniadau sy'n cael eu llywio gan safonau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a RISCA; sicrhau bod y cartref yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth a'r safonau perthnasol drwy fonitro parhaus a chymorth ymarferol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhan o dîm sy'n datblygu ein modelau cymorth presennol ac yn cyfrannu at ddatblygiad ehangach gwasanaethau gofal cymdeithasol ac adnoddau cymunedol ar draws y gyfarwyddiaeth.Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am reolaeth, arweinyddiaeth a datblygiad cyffredinol y tîm staff, yn goruchwylio recriwtio ar gyfer y gwasanaeth ac yn gyfrifol am ddefnyddio adnoddau'n effeithiol ar draws y cartref i gyrraedd safonau cymorth diogel. I'ch cynorthwyo yn eich rôl byddwch yn cael hyfforddiant , y cyfle i weithio mewn tîm gyda chymorth gan gydweithwyr, goruchwyliaeth un i un gyda'ch rheolwr llinell, yn ogystal â chyfarfodydd tîm rheolaidd.Mae cofrestru fel Rheolwr Cofrestredig gyda Gofal Cymdeithasol Cymru yn un o ofynion y swydd yn ogystal â meddu ar y cymhwyster perthnasol mewn Arweinyddiaeth a Rheoli.Ar gyfer y swydd hon bydd angen i chi fod yn hyblyg ac ar gael i weithio nosweithiau a phenwythnosau yn ôl yr angen.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae trwydded yrru ddilys yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae dyletswyddau nos, gweithio ar benwythnosau, wrth gefn yn ofynion y swydd hon.
Dyddiad Cau: 29 Mai 2024 Dyddiad llunio rhestr fer: 31 Mai 2024 Dyddiad Cyfweld: 10 Mai 2024Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person