Hysbyseb Swydd
Gwasanaeth Cynhwysiant
Cynorthwy-ydd Cymorth Anghenion Arbennig Wrth Gefn
Yn ol y galw - yn ystod tymor yr ysgol yn unig
GBP 7.87 yr awr
Mae angen rhywun brwdfrydig, ymroddgar a llawn cymhelliant i weithio fel Cynorthwy-ydd Cymorth Anghenion Arbennig, yn cynorthwyo plant ag anghenion ychwanegol yn yr ystafell ddosbarth brif ffrwd.
Byddai peth profiad o weithio gyda phlant a phobl ifanc sydd ag anghenion ychwanegol yn fantais.
Mae angen trwydded yrru gyflawn ac mae'n hanfodol bod gennych eich car eich hun i'w ddefnyddio yn ystod oriau gwaith.
Bydd disgwyl i chi weithio mewn ysgolion, ym mhob rhan o'r fwrdeistref, yn unol ag anghenion y Gwasanaeth Cynhwysiant.
Mae'n ofynnol i ymgeiswyr fod yn rhugl mewn Cymraeg ysgrifenedig a llafar gan y byddant yn gweithio mewn Ysgol Gymraeg.
Dylai ymgeiswyr nodi y bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus gael archwiliad cofnodion troseddol gan y gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Dyddiad Cau: Dydd Mercher 10 Rhagfyr 2014
Clicwch yma i weld y Pecyn Swydd
I ymgeisio am y swydd hon, cliciwch 'Ymgeisio Ar-lein'