25 awr yr wythnos
Mae'r Tim Adnoddau Cymunedol yn wasanaeth cymorth Iechyd a Gofal Cymdeithasol integredig sy'n darparu amrywiaeth o ymatebion iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol i alluogi pobl i gyflawni'r hyn sy'n bwysig iddynt hwy.
Rydym ar daith uchelgeisiol i gyflawni dull gwirioneddol gydgynhyrchiol o weithio gyda phobl. Credwn fod gan bawb gryfderau a'n cenhadaeth yw cynorthwyo pobl i gynnal eu hannibyniaeth er mwyn iddynt allu byw eu bywydau yn dda. Mae gennym ddull amlddisgyblaethol o alluogi a chynorthwyo pobl sy'n byw gyda phroblemau a achosir gan anabledd, eiddilwch a heneiddio.
Byddwch yn rhan o ymateb gwaith cymdeithasol tymor byr yn y Tim Adnoddau Cymunedol ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, gan ddarparu cymorth gwaith cymdeithasol i oedolion mewn tim amlddisgyblaethol integredig yn cynnwys gweithwyr proffesiynol gwaith cymdeithasol, gofal cymdeithasol ac iechyd; nod y tim yw gwella mynediad i wasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a chymorth personol i bobl y mae eiddilwch a heneiddio yn effeithio arnynt. Mae'r gwasanaeth hwn yn canolbwyntio ar ganlyniadau i unigolion, gan sicrhau'r potensial mwyaf posibl a lleihau risg i annibyniaeth, gyda phwyslais ar ddewis a rheolaeth. Rydym wedi gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu darpariaeth integredig sy'n canolbwyntio ar y person a bydd gan y swydd hon rol allweddol wrth weithio i sicrhau bod pobl yn yr ysbyty yn cael eu rhyddhau yn brydlon.
Fel aelod o'r Tim Adnodau Cymunedol byddwch yn rhannu ag uwch-staff eraill y cyfrifoldeb am weithredu'r gwasanaeth yn effeithiol a chymryd rhan yn ei ddatblygiad parhaus.
Mae cymhwyster cydnabyddedig mewn gwaith cymdeithasol a chofrestru gyda Chyngor Gofal Cymru yn hanfodol. Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg a Saesneg yn ofyniad hanfodol ar gyfer y rol hon.
Byddwch yn:Gweithio fel rhan o dim mewn hinsawdd o newid.Rheoli llwyth achosion mewn amgylchedd prysur Rhoi cyngor ac arweiniad a chyfeirio pobl i adnoddau cymunedol lle y bo'n briodol ac yn angenrheidiol. Hyrwyddo canlyniadau lles cyfannol i bobl y mae angen gofal a chymorth arnynt datblygu perthnasoedd proffesiynol yn y Gyfarwyddiaeth, y Bwrdd Iechyd ac ar draws ffiniau asiantaeth;O ran arfer, defnyddio dull sy'n canolbwyntio ar y person;
Mae'r swydd hon yn ei gwneud yn ofynnol cael gwiriad cofnodion troseddol drwy'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)
Clicwch yma i weld y Disgrifiad Swydd & Manyleb Person
I ymgeisio am y swydd hon, cliciwch 'Ymgeisio Ar-lein'