32.5 awr yr wythnos
Dros dro tan orffennaf y 13.
I gychwyn 01.09.25
Dymuna Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Gymraeg Calon y Cymoedd benodi athro / athrawes llawn cymhelliant â phrofiad o addysgu o fewn y cyfnod Cynradd i ymuno a thîm ymroddgar, arloesol a chreadigol wrth ddarparu amgylchedd ysgogol a maethlon sydd yn dathlu unigoliaeth pob plentyn.
Bydd angen i'r athro / athrawes a benodir ddangos dealltwriaeth o ofynion y Cwricwlwm a’r Cyfnod Sylfaen ac arfer rhagorol ar lawr y dosbarth. Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus feithrin perthnasau cadarnhaol gydag holl rhan ddeiliaid yr ysgol.
Mae'r gallu i sgwrsio â chwsmeriaid ac ymateb i ohebiaeth yn hyderus ac yn hawdd drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o ofynion y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 9 fed o Orffennaf
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 10 fed o Orffennaf
Dyddiad y Cyfweliad: 14 eg o Orffennaf
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person