30 awr yr wythnos
Tymor yr Ysgol
Dros dro (Cyfnod Mamolaeth) - i gychwyn 04.01.26
I gychwyn Ionawr 2027
O ganlyniad i ddyrchafiadau a chyfleoedd datblygu proffesiynol o fewn yr ysgol, mae Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Gymraeg Calon y Cymoedd yn dymuno penodi Swyddog Cymorth Dysgu llawn cymhelliant a brwdfrydedd i ymuno â'n tîm ymroddgar, arloesol a chreadigol.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i weithio mewn ysgol Gymraeg flaengar sy'n darparu amgylchedd dysgu ysgogol, gofalgar a chynhwysol lle mae pob plentyn yn cael ei werthfawrogi a'i gefnogi i wireddu ei botensial. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio'n agos gyda staff addysgu i gefnogi dysgu disgyblion ac i gyfrannu at gynnal safonau uchel o addysgu a dysgu ar draws yr ysgol.
Rydym yn chwilio am unigolyn sydd:
Bydd dyletswyddau'r rôl yn cynnwys:
Mae'n ofyniad hanfodol eich bod yn gallu sgwrsio ac ymateb i ohebiaeth yn Gymraeg, gyda hyder ac yn rhwydd.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 09 Rhagfyr 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 12 Rhagfyr 2026
Dyddiad y Cyfweliad: 14 Rhagfyr 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person