32.5 awr yr wythnos
Dros dro hyd at 31 Awst 2026
Mae Llywodraethwyr Ysgol y Ferch O'r Sgêr yn ceisio penodi swyddog cymorth dysgu dros dro llawn cymhelliant sydd â phrofiad o weithio yn y Cyfnod Cynradd i ymuno â thîm ymroddedig, arloesol a chreadigol tra'n darparu amgylchedd ysgogol a meithringar sy'n dathlu unigoliaeth pob plentyn.
Bydd angen i'r swyddog cymorth dysgu a benodir ddangos dealltwriaeth o ofynion y swydd ac ymarfer dosbarth rhagorol. Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus feithrin perthynas gadarnhaol gyda holl randdeiliaid yr ysgol.
Mae'r gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg yn ofyniad ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 02 Mehefin 2025
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer:
Dyddiad y Cyfweliad:
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person