37 awr yr wythnos
Mae'r awdurdod lleol yn ymroddedig i ddefnyddio'r sail dystiolaeth gynyddol ar gyfer datblygu gwasanaethau arloesol sy'n gweithio'n effeithiol gyda theuluoedd sy'n dioddef sawl symptom o allgáu cymdeithasol ac sydd wedyn yn dibynnu'n sylweddol ar amrywiaeth eang o wasanaethau cyhoeddus.
Mae cyfle cyffrous wedi codi i fod yn rhan o wasanaeth amlasiantaethol wedi'i gyd-leoli o'r enw Meddwl am y Baban. Rydym yn chwilio am Weithiwr Cymorth i Deuluoedd i ymuno â'n tîm a chanddo ddull ‘gallu gwneud’ ac sy'n ymrwymedig i ddarparu a datblygu ymyriadau seiliedig ar dystiolaeth. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar yr ysgogiad i wella canlyniadau cynaliadwy i fabanod sydd mewn perygl o fod yn blant sy'n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol.
Mae'r rôl yn golygu gweithio'n ddwys â babanod heb eu geni a babanod ar ôl genedigaeth a'u teuluoedd lle maent mewn perygl o ddod i'r system ofal. Bydd angen i ymgeiswyr fod yn hyblyg, yn ymatebol ac yn bwyllog mewn sefyllfaoedd o bwysau uchel, emosiynol a meddu ar ddealltwriaeth dda o gymorth cyn geni ac ôl-enedigol.
Bydd y rôl yn ei gwneud yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio boreau cynnar, nosweithiau a phenwythnosau.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i arloesi a datblygu eich sgiliau mewn arfer seiliedig ar dystiolaeth gyda babanod a'u teuluoedd. Os ydych yn cael eich denu gan y gwaith hwn ac yn gallu bodloni gofynion manyleb y person edrychwn ymlaen at glywed gennych.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae trwydded yrru ddilys yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Gweithio ar Benwythnosau yn un o ofynion y swydd hon.
Dyddiad Cau: 26 Tachwedd 2025
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 27 Tachwedd 2025
Dyddiad y Cyfweliad: 04 Rhagfyr 2025
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person