37 awr yr wythnos
Dros dro hyd at 3 blynedd yn unol â'r brentisiaeth.
Yn ein Hadran TG rydym wir yn gweld y gwerth y mae prentisiaethau'n ei ychwanegu at ein gwasanaeth, dros y blynyddoedd rydym wedi datblygu llawer o brentisiaid yn llwyddiannus a'u helpu i ddechrau gyrfa mewn Technoleg Gwybodaeth. Rydym wedi creu swydd prentis newydd o fewn ein tîm TGCh sy'n cefnogi ac yn datblygu ein systemau Adnoddau Dynol a Chyflogres. Rydym yn chwilio am ddysgwr gweithgar ac ymroddedig sy'n awyddus i ddechrau ar yrfa ym maes TGCh, byddwch yn gallu datblygu'n dechnegol o fewn amgylchedd a fydd yn darparu profiad gwaith gwych, a byddwch hefyd yn cael budd o astudio sy'n arwain at gymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol. Bydd y cyfle i gael cymorth a dysgu a gewch yn sicrhau y byddwch yn meddu ar y sgiliau, y wybodaeth a'r cymwyseddau priodol i gychwyn ar yrfa mewn Technoleg Gwybodaeth yn y dyfodol.
Bydd gennych eich cymwysterau Safon Uwch neu gyfwerth, a fydd yn cynnwys cymhwyster TGCh, a byddwch yn meddu ar y brwdfrydedd a'r ysgogiad i ymgymryd â datblygiad proffesiynol. Ni fydd ceisiadau'n cael eu hystyried gan y rhai sydd eisoes wedi cyflawni cymhwyster ar lefel 3 neu uwch yn y maes pwnc. A chithau eisoes yn hyddysg mewn cyfrifiadura, byddwch yn ddefnyddiwr hyfedr o dechnoleg gyda sgiliau cyfathrebu rhagorol a dealltwriaeth o bwysigrwydd gofal cwsmeriaid.
Yn ystod y brentisiaeth byddwch yn cael cymorth a chael eich mentora gan uwch-reolwr tîm i ddatblygu eich gyrfa wrth gael budd o ddod i gysylltiad â thechnoleg newydd.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Rhaid i ymgeiswyr ddangos eu bod yn bodloni'r holl gymwysterau hanfodol a amlinellir ym Manyleb y Person a rhaid iddynt gynnwys y rhain ar eu ffurflen gais, hyd yn oed os ydynt eisoes wedi ennill cymwysterau lefel uwch.
Ni fydd ceisiadau'n cael eu hystyried i'r rhai sydd eisoes wedi cyflawni cymhwyster ar lefel gyfwerth neu uwch yn yr un maes pwnc, gan gynnwys gradd yn yr un maes pwnc. Hefyd, ni fydd ymgeiswyr sydd ar hyn o bryd yn derbyn cyllid Llywodraeth Cymru at ddibenion astudio yn gallu cael eu hystyried.
Dyddiad Cau: 16 Rhagfyr 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 18 Rhagfyr 2026
Dyddiad y Cyfweliad: 5 Ionawr 2027
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person