33 awr yr wythnos
Cyfnod Penodol hyd at 31 Mawrth 2028
Mae cyfle cyffrous wedi codi i ddatblygu gyrfa ym maes gweinyddu Gofal Cymdeithasol. Ar hyn o bryd mae gennym swydd wag ar gyfer Swyddog Cymorth Gwaith Cymdeithasol, yn gweithio yng ngwasanaethau Gofal Cymdeithasol Plant ym Mhen-y-bont ar Ogwr gan gynorthwyo'r Gwasanaeth Ar Ffiniau Gofal. Bydd yn ofynnol i'r swydd hon weithio 33 awr yr wythnos a'r patrwm gwaith fydd:
Dydd Llun i ddydd Iau 9.00am i 5.00pm
Dydd Gwener – 9.30am i 3.30pm
Byddech yn darparu amrywiaeth o swyddogaethau cymorth gweinyddol gan weithio'n agos gydag amrywiaeth o ymarferwyr yn y Gwasanaeth Ar Ffiniau Gofal, i'w galluogi i fodloni ei rwymedigaethau a darparu gwasanaethau amserol ac effeithiol, i deuluoedd a phlant.
A chithau'n Swyddog Cymorth Gwaith Cymdeithasol, byddwch yn cynorthwyo tîm o ymarferwyr yn y gwasanaeth yn ddyddiol, gan weithio'n agos gyda nhw i ddarparu cymorth gweinyddol effeithiol yn unol â gofynion yn ogystal â safonau a gweithdrefnau adrannol y cytunwyd arnynt.
Byddwch yn hyderus ac yn rhagweithiol, heb ofni defnyddio'ch menter eich hun, gyda sgiliau trefnu a chyfathrebu rhagorol. Mae'r rôl yn ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr feddu ar brofiad ym maes arferion/gweithdrefnau gweinyddol a/neu ariannol.
Mae angen profiad o gymryd cofnodion, neu barodrwydd i ddysgu'r sgìl hwn.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Dyddiad Cau: 10 Rhagfyr 2025
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 16 Rhagfyr 2025
Dyddiad y Cyfweliad: 07 Ionawr 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person