37 awr yr wythnos
Ym Mhen-y-bont ar Ogwr, mae'r Ganolfan Ymyrryd ac Atal yn Gynnar yn gweithredu fel y drws blaen i'n gwasanaethau integredig i bob Oedolyn. Mae Tîm Gwaith Cymdeithasol yr Ysbyty yn cyflawni'r cyswllt hanfodol rhwng ein hysbytai lleol a'n gwasanaethau cymunedol er mwyn helpu pobl i fynd adref cyn gynted ag y gallant. Gyda'i gilydd, mae'r gwasanaeth yn cyflawni swyddogaeth hanfodol yn ein system iechyd a gofal cymdeithasol. Yn aml, ni yw'r pwynt cyswllt cyntaf ac rydym yn ceisio gweithio gyda phobl a'u teuluoedd i nodi eu cryfderau a'u hadnoddau a sicrhau eu bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt. Felly, mae'n bwysig ein bod yn cael hyn yn iawn!
Bydd y rôl hon yn rhoi cyfle unigryw i chi adeiladu ar lwyddiant ein timau presennol a chredu model sy'n cyflawni canlyniadau hirdymor i bobl Pen-y-bont ar Ogwr. Os ydych yn mwynhau her ac yn hyderus yn gweithio ar draws timau a sefydliadau, efallai mai dyma'r rôl i chi.
Mae hwn yn gyfle am i reolwr gwaith cymdeithasol presennol gymryd y cam nesaf yn eich gyrfa. Bydd angen i chi ganolbwyntio ar gyflawni rhagoriaeth mewn amgylchedd cyflym. Byddwch yn cael eich gwobrwyo drwy weithio mewn gwasanaeth arloesol, gydag arweinyddiaeth gref a sefydledig. Byddwch yn cael cyfleoedd gwych ar gyfer hyfforddiant, datblygu, a datblygiad gyrfa.
Os oes gennych ddiddordeb mae croeso i chi ffonio Michelle King ar 07968 101108.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Oedolion gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae gwiriad gan Heddlu De Cymru yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Dyddiad Cau: 17 Medi 2025
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer:30 Medi 2025
Dyddiad y Cyfweliad: 14 Hydref 2025
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person