37 awr yr wythnos
1 x Parhaol
Mae cyfle cyffrous wedi codi yn y Tîm Strategol a Lleoliadau, yn dilyn buddsoddiad newydd i gryfhau digonolrwydd lleoliadau a chyflawni strategol. Mae'r rôl hon yn cefnogi nodau'r Ddeddf Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ddileu elw o leoliadau plant, gan sicrhau bod adnoddau'n cael eu defnyddio'n effeithiol i sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i blant a phobl ifanc.
Mae gan y swydd uwch arweinyddiaeth hon gyfrifoldeb am oruchwylio lleoliadau plant, comisiynu, a monitro contractau ar draws gwasanaethau rheoleiddiedig. Byddwch yn arwain cynllunio strategol, yn gweithio'n agos gyda darparwyr nid-er-elw, ac yn goruchwylio perfformiad i sicrhau bod lleoliadau yn ddiogel, yn gynaliadwy, ac yn ymatebol i anghenion lleol.
Rydym yn chwilio am arweinydd systemau hyderus sydd ag arbenigedd comisiynu cryf a gallu rheoli amlwg, sy'n gallu adeiladu perthnasoedd effeithiol, cryfhau prosesau comisiynu a lleoli, ac adolygu ac asesu'r farchnad leol yn barhaus i sicrhau darpariaeth ddigonol, o ansawdd uchel.
Byddwch yn chwarae rôl ganolog wrth lunio dulliau comisiynu, gan gefnogi'r gwaith o ddatblygu marchnad leol gynaliadwy, a sicrhau bod y system yn gallu ymateb yn effeithiol i'r galw presennol a'r galw yn y dyfodol. Byddwch yn ymuno â thîm cefnogol, blaengar sy'n gweithio ar y cyd ac sy'n ymrwymedig i wella sefydlogrwydd, ansawdd, a chanlyniadau i blant a phobl ifanc.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant ac Oedolion gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Dyddiad Cau: 25 Chwefror 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 02 Mawrth 2026
Dyddiad y Cyfweliad: 09-12 Mawrth 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person