Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn chwilio am bobl ofalgar, dosturiol sydd am ymuno â'n timau gwasanaethau darparwyr anhygoel a'n helpu i ddarparu dull gofal a chymorth sy'n canolbwyntio ar y person a galluogol. Rydym yn darparu amrywiaeth o wasanaethau gofal a chymorth sy'n cynnwys:-Byw â Chymorth, Seibiannau Byr a Llety Brys i bobl ag Anableddau Dysgu a/neu anawsterau iechyd meddwl Gofal Preswyl i Bobl Hŷn a phobl â Dementia Cymorth Gartref – yn y gymuned a thelir lwfans am deithio rhwng galwadau Gwasanaethau Llety Gofal Ychwanegol sy'n darparu cymorth i bobl dros 60 oedMae'r rôl hon yn cynnig hyblygrwydd i chi, dewis o oriau yr hoffech ymrwymo iddynt, a'r cyfle i gael profiad o weithio ym maes gofal cymdeithasol. Mae profiad yn cael ei groesawu, ond nid oes ei angen; credwn mai pwy ydych chi fel person a'r gwahaniaeth y gallwch ei wneud sy'n bwysig. P'un a ydych yn newydd i'r rôl neu wedi cefnogi pobl yn flaenorol, rydym am glywed gennych; y cyfan rydym yn ei ofyn yw bod gennych angerdd i wneud newidiadau cadarnhaol i fywydau pobl.Ymrwymiad Pen-y-bont ar Ogwr i chiRhaglen sefydlu a fydd yn rhoi'r hyder i chi ymgymryd â'ch rôl.Cyfleoedd hyfforddiant a datblygiad proffesiynol parhaus i wella eich sgiliau a'ch gwybodaeth.Cyflog cystadleuol yn amrywio o £12.59 - £16.78 yr awr sy'n cynnwys cyfraddau uwch ar gyfer penwythnosau. Cyfradd dros nos / noson effro £16.51 yr awr gyda thaliadau chwyddo ar benwythnosau Lwfans teithio 47c y filltir (yn benodol i wasanaethau Cymorth Gartref) Amrywiaeth o shifftiau/oriau ar gael sy'n addas i'ch amgylchiadau Hawl i wyliau blynyddol. Mynediad at gynlluniau gwobrwyo staff sy'n cynnwys gostyngiadau ar deithio, siopa, diwrnodau allan, moduro a llawer mwy.Cymorth iechyd a llesiant galwedigaethol. Cyfrifoldebau Darparu cymorth sy'n canolbwyntio ar y person sydd wedi'i deilwra i anghenion unigol; hyrwyddo a galluogi annibyniaeth ac annog pobl i wneud dewisiadau gwybodus Rhoi cymorth gydag agweddau ar fywyd bob dydd a nodwyd yng nghynlluniau gofal a chymorth unigolion a allai gynnwys deiet/paratoi bwyd, hylendid personol, gwisgo ac ymddangosiad personol.Gweithio fel rhan o dîm ochr yn ochr â gweithwyr cymdeithasol, therapyddion cysylltiedig ag iechyd a gwasanaethau generigCymryd rhan mewn sesiynau goruchwylio a chyfleoedd datblygu gyrfa fel y cytunwyd arnynt gyda'ch rheolwr a chymryd rhan weithredol mewn unrhyw hyfforddiant er mwyn cynnal eich datblygiad proffesiynol eich hun a chofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru a gwella cymhwysedd yn eich rôlDeall yn llawn ac arsylwi ar bob mater sy'n ymwneud ag unigolion a staff gan sicrhau bod cyfrinachedd a chodau ymddygiad yn cael eu dilyn ar bob adeg. Bod yn ymwybodol o'ch cyfrifoldebau eich hun o ran diogelu pobl mewn perygl a rhoi gwybod am unrhyw bryderon a allai roi'r unigolyn, chi, neu eraill mewn perygl Gallu gweithio'n hyblyg, gan gynnwys rhai penwythnosau a gwyliau banc Cymryd rhan weithredol a chyfrannu at ddatblygu cynlluniau sy'n canolbwyntio ar y person gan gynnwys asesiadau risg cadarnhaol a chanllawiau /arweiniad cysylltiedig lle y bo angen.Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.Mae gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.Mae trwydded yrru ddilys yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.Mae Dyletswyddau Nos, Cysgu i Mewn, Gweithio ar Benwythnosau yn ofynion y swydd hon.
Dyddiad Cau: 18 Medi 2024
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person