32.5 awr yr wythnos
Amser Tymor
Gwasanaeth Cymorth i Bobl Fyddar, Tîm Synhwyraidd, Cynhwysiant
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn chwilio am Gyfathrebwr BSL medrus a llawn cymhelliant i ymuno â'r Tîm Synhwyraidd.
Rydym yn wasanaeth dynamig sy'n ymroddedig i gefnogi lleoliadau ac ysgolion i ddiwallu anghenion plant a phobl ifanc byddar ledled y sir.
Ynghylch y Tîm / Maes Gwasanaeth
Mae'r tîm yn gweithio'n agos gydag ysgolion, teuluoedd, ac asiantaethau partner i ddarparu ymyrraeth gynnar, cymorth wedi'i dargedu, ac arweiniad arbenigol. Mae'r tîm yn darparu ymgynghori, allgymorth, asesu a meithrin capasiti i leoliadau a staff ysgolion er mwyn gwella canlyniadau i ddysgwyr.
Y Rôl
A chithau'n gyfathrebwr BSL, byddwch yn chwarae rôl allweddol wrth ddarparu cymorth cyfathrebu cynhwysol, o ansawdd uchel i blant, lleoliadau ac ysgolion. Gan weithio fel rhan o dîm cydweithredol, byddwch yn:
Darparu cymorth cyfathrebu drwy Iaith Arwyddion Prydain, a chymorth dysgu, i blant a phobl ifanc Byddar (3 - 19 oed), gan alluogi mynediad at addysg, cyfathrebu a gweithgareddau ysgol ehangach.
Gan weithio o dan gyfarwyddyd yr Athro Plant Byddar, bydd deiliad y swydd yn cefnogi cyflawniad addysgol, cynhwysiant, annibyniaeth a llesiant dysgwyr ar draws amrywiaeth o leoliadau addysgol.
Darparu ymyriadau wedi'u targedu, gan fodelu strategaethau effeithiol a dulliau ymarferol.
Cefnogi'r gwaith o ddatblygu cyfathrebu, iaith a dysgu.
Dilyn a chyflwyno rhaglenni arbenigol o dan arweiniad yr Athro dan arweiniad yr Athro Cymwysedig i'r Byddar.
Darparu cymorth cyfathrebu yn y dosbarth a hwyluso mynediad at ddysgu a'r amgylchedd.
Gweithio gyda'r tîm i gynnig arweiniad, hyfforddiant, a meithrin capasiti ar gyfer lleoliadau a staff ysgolion.
Cyfrannu at gynllunio amlasiantaethol a datrys problemau sy'n canolbwyntio ar y plentyn.
Ymgymryd ag ymweliadau allgymorth i leoliadau ac ysgolion pan fo angen.
Helpu i fonitro, adolygu, a gwerthuso cynlluniau unigol i sicrhau canlyniadau cadarnhaol i ddysgwyr.
Mae hon yn rôl amrywiol a gwerth chweil, yn ddelfrydol ar gyfer rhywun sy'n angerddol am wella profiadau plant a phobl ifanc byddar.
Priodoleddau Hanfodol
Rydym yn chwilio am unigolyn sy'n dangos:
Sgiliau a Gwybodaeth
Dealltwriaeth gref o ddatblygiad plant, anghenion cyfathrebu a sut i gefnogi plant a phobl ifanc wrth gael mynediad i'r cwricwlwm.
Gwybodaeth am ddulliau cyfathrebu cynhwysol ac ymwybyddiaeth o fyddardod mewn lleoliadau addysgol.
Arwyddwr BSL hyderus sydd â chymhwyster BSL Lefel 3 neu uwch.
Gallu cynnig cyngor ymarferol a modelu strategaethau effeithiol i'r staff.
Yn fedrus wrth feithrin, perthnasoedd cadarnhaol, ymddiriedgar gyda dysgwyr, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol.
Sgiliau TGCh da i gefnogi dysgu, cofnodi gwybodaeth a'i chyflwyno'n glir.
Profiad
Profiad o weithio gyda phlant a phobl ifanc byddar, yn enwedig y rhai sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL) i gyfathrebu.
Mae profiad o gynorthwyo ysgolion neu leoliadau addysgol yn ddymunol iawn.
Profiad o gyfrannu at gynlluniau fel Proffiliau Un Dudalen, Addasiadau Rhesymol a darparu ymwybyddiaeth o fyddardod.
Rhinweddau Personol
Tosturiol, amyneddgar, ac yn canolbwyntio ar y plentyn.
Cyfathrebwr hyderus gyda sgiliau rhyngbersonol cryf.
Hyblyg, myfyriol, ac yn gallu gweithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm.
Gallu aros yn dawel a chanolbwyntio ar atebion mewn sefyllfaoedd heriol.
Cymwysterau
Cymhwyster Lefel 3 perthnasol (neu brofiad cyfwerth) ym maes addysg, gofal plant, gwaith ieuenctid, ADY, neu faes cysylltiedig.
Cymhwyster Lefel 3 mewn Iaith Arwyddion Prydain neu uwch.
Ymrwymiad i ddysgu proffesiynol parhaus.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae'n ddymunol y byddwch yn gallu sgwrsio ac ymateb i ohebiaeth yn hyderus ac yn rhwydd yn y Gymraeg.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae trwydded yrru ddilys yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 02 Rhagfyr 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 02 Rhagfyr 2026
Dyddiad y Cyfweliad: 10 Rhagfyr 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person