37 awr yr wythnos
Cyfnod Penodol hyd at 28 mis
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ceisio penodi Prentis Cyfrifyddu i weithio yn ei Adran Gyllid i ymgymryd â chymwysterau cyfrifyddu AAT Lefel 2 a Lefel 3.
Mae cyfrifyddu yn broffesiwn tra medrus, gyda staff cyfrifyddu yn gweithio ar lawer o lefelau gwahanol. Bydd y rôl yn gyfle gwych i weithio ochr yn ochr â chydweithwyr profiadol, gan ennill gwybodaeth a sgiliau penodol i'r swydd a fydd yn ategu datblygiad proffesiynol ac yn chwarae rhan bwysig wrth gynorthwyo'r gwaith o ddarparu gwasanaethau cymorth cyfrifyddu o ansawdd uchel. Bydd y tasgau yn cynnwys cefnogi gwasanaethau amrywiol a darparu gwybodaeth ariannol i ddeiliaid cyllidebau, cynorthwyo ar reolaeth ariannol grantiau a chynnal cofnodion a gwybodaeth ystadegol.
Mae'r Gwasanaeth Cyfrifyddu yn chwilio am unigolyn llaw cymhelliant a threfnus sydd â sgiliau cyfathrebu da, sgiliau TG gwych, sylw i fanylion, ac sy'n chwaraewr tîm go iawn. Mae'r brentisiaeth yn rhoi'r cyfle i chi ennill cyflog wrth ddysgu a gweithio tuag at gymwysterau proffesiynol a gydnabyddir yn genedlaethol yn eich llwybr gyrfa dewisol.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Eithriadau Cymhwyster Lefel 2: Ni ystyrir ymgeiswyr sydd eisoes wedi cyflawni cymhwyster ar lefel gyfwerth neu uwch yn yr un maes pwnc, gan gynnwys lefel gradd. Hefyd, ni fydd ymgeiswyr sydd ar hyn o bryd yn derbyn cyllid Llywodraeth Cymru at ddibenion astudio yn gallu cael eu hystyried.
Dyddiad Cau: 4 Chwefror 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 5 Chwefror 2026
Dyddiad y Cyfweliad: 12,13,16 Chwefror 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person