37 awr yr wythnos
Rydym yn darparu gofal sy'n canolbwyntio ar y person ac yn canolbwyntio ar ganlyniadau i bobl sy'n cael eu cefnogi mewn lleoliad gofal preswyl parhaol neu dymor byr ym Mryn y Cae. Cynorthwyo pobl i gynnal eu hannibyniaeth, adennill, gwella a chynnal sgiliau byw bob dydd, darparu'r canlyniadau gorau i bobl y mae angen gofal a chymorth arnynt mewn amgylchedd diogel.
Bydd y Cynorthwyydd Gweinyddol yn rhoi cymorth effeithiol i'r Rheolwr a'r Arweinwyr Tîm yn nyletswyddau gweinyddu o ddydd i ddydd gwasanaethau Preswyl ac Ailalluogi'r cartref, drwy ddarparu gwasanaeth gweinyddol o ansawdd uchel sy'n cynorthwyo â gweithredu gwasanaeth effeithlon ac effeithiol.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig cyfleoedd gwych i bobl sy'n dymuno gweithio yn y sector Gofal Cymdeithasol a byddwch yn cael cymorth i fynd ar hyfforddiant a datblygu eich dysgu ymhellach yn ogystal â chyfleoedd i gefnogi dilyniant gyrfa yn y sector.
Dylai ymgeiswyr nodi y bydd yn angenrheidiol i'r ymgeisydd llwyddiannus gael gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
Rydym yn chwilio am bobl sydd â gwerthoedd cadarn, sy'n gallu dangos parch, yn gallu cyfrannu at fywydau pobl a gwneud gwahaniaeth iddynt. Byddwch yn dda am wrando a bydd gennych sgiliau cyfathrebu da ac yn gallu gweithio fel rhan o dîm aml-sgiliau proffesiynol.
Dewch i ymuno â'n tîm ymroddedig ac ymrwymedig.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Oedolion gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 19 Mawrth 2025
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 21 Mawrth 2025
Dyddiad y Cyfweliad: 04 Ebrill 2025
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person