37 awr yr wythnos
Dros dro - hyd at 1 flwyddyn
Mae cyfle cyffrous wedi codi i ddatblygu gyrfa ym maes gweinyddu Gofal Cymdeithasol. Ar hyn o bryd mae gennym swydd wag ar gyfer Swyddog Cymorth Rhwydwaith a Gwasanaethau Tymor Byr, yn gweithio yng ngwasanaethau Gofal Cymdeithasol i Oedolion ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Byddech yn darparu amrywiaeth o swyddogaethau cymorth gweinyddol gan weithio'n agos gyda Gweithwyr Cymdeithasol a Therapyddion Galwedigaethol mewn Gwasanaethau i Oedolion.
A chithau'n Swyddog Cymorth Rhwydwaith a Gwasanaethau Tymor Byr, byddwch yn cynorthwyo wrth ddarparu cymorth clercol i un o'n Timau Gofal Cymdeithasol i Oedolion mewn lleoliadau amrywiol ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Byddwch yn hyderus ac yn rhagweithiol, heb ofni defnyddio'ch menter eich hun, gyda sgiliau trefnu a chyfathrebu rhagorol. Yn ogystal, mae'r rôl yn gofyn am sgiliau dadansoddol da, hunangymhelliant a sgiliau amldasgio da.
Bydd y dyletswyddau'n cynnwys trefnu a chydlynu dyddiaduron, cyfathrebu â chleientiaid a gweithwyr proffesiynol (ar lafar ac yn ysgrifenedig), mynd ati'n rhagweithiol i drefnu a chefnogi cyfarfodydd sensitif, cofnodi gwybodaeth ar gofnodion cleientiaid, olrhain a monitro gwybodaeth am lwyth achosion a dethol gwybodaeth o ffynonellau amrywiol.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Dyddiad Cau: 17 Medi 2025
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 24 Medi 2025
Dyddiad y Cyfweliad: 08 & 09 Hydref 2025
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person