37 awr yr wythnos.
Cyfnod Penodol hyd at fis Mawrth 2028.
A ydych yn arweinydd dynamig sy'n angerddol am gynorthwyo plant mewn gofal maeth? A ydych yn ffynnu mewn amgylchedd cyflym, cydweithredol? Rydym yn chwilio am weithiwr proffesiynol ymroddedig a phrofiadol i arwain ein Tîm Cymorth Lleoliad yng ngwasanaeth maethu Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Y rôl:
A chithau'n Rheolwr Tîm Cymorth Lleoliad, byddwch yn arwain tîm amlddisgyblaethol o Weithwyr Cymorth Lleoliad a Gweithwyr Ailuno, gan ddarparu cymorth effaith uchel, wedi'i dargedu i blant sydd â phrofiad o fod mewn gofal a'u teuluoedd. Byddwch yn canolbwyntio ar sefydlogrwydd lleoliad, ailuno amserol, a sicrhau bod plant a gofalwyr yn cael y cymorth cywir ar yr adeg gywir.
Byddwch yn:
Rhoi arweiniad clir, effeithiol a goruchwyliaeth i'r tîm.
Goruchwylio'r broses o ddarparu cymorth uniongyrchol i blant mewn lleoliadau maeth a'r rhai sy'n dychwelyd adref.
Gweithio'n agos gyda thimau maethu, gwasanaethau preswyl, a gweithwyr cymdeithasol i gydlynu cynlluniau.
Monitro ansawdd ac effaith ymyriadau a chyfrannu at gynllunio strategol.
Sicrhau bod cyfrifoldebau diogelu yn cael eu bodloni a bod safonau ymarfer yn parhau i fod yn uchel.
Arwain ar anghenion hyfforddi, rheoli perfformiad, ac ymarfer myfyriol.
Mae hon yn rôl weithredol allweddol gyda chyfle gwirioneddol i ysgogi arloesedd a gwell canlyniadau i blant a gofalwyr maeth ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Amdanoch chi:
Byddwch yn dod â:
Phrofiad o reoli neu oruchwylio staff mewn lleoliad gofal cymdeithasol plant.
Dealltwriaeth gref o faethu, ailuno, a sefydlogrwydd lleoliad.
Gwybodaeth dda am ddeddfwriaeth berthnasol a modelau ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
Sgiliau rhagorol o ran cyfathrebu, trefnu, ac, arwain.
Gallu gweithio'n hyblyg ac yn gydweithredol ar draws gwasanaethau.
Cymhwyster Lefel 4 perthnasol a pharodrwydd i gwblhau hyfforddiant rheoli Lefel 5.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant ac Oedolion gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae trwydded yrru ddilys yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Mae gweithio ar benwythnosau yn ofyniad ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 15 Hydref 2025
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 17 Hydref 2025
Dyddiad y Cyfweliad: 30 Hydref 2025
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person