37 awr yr wythnos
Tîm Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant
Rheolwr Busnes a Chynaliadwyedd Blynyddoedd Cynnar
Cyfnod penodol tan 31 Mawrth 2028, gydag estyniad posibl, yn amodol ar gyllid parhaus
Y Rôl
Rydym yn chwilio am weithiwr proffesiynol llawn cymhelliant a blaengar i ymuno â'n Gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant ar adeg gyffrous o drawsnewid.
Gyda newidiadau sylweddol i bolisi a darpariaeth gofal plant ar y gorwel, mae hwn yn gyfle i helpu i lunio darpariaeth gwasanaethau gofal plant cynaliadwy, o ansawdd uchel ledled Pen-y-bont ar Ogwr yn y dyfodol.
Byddwch yn arwain y gwaith o ddatblygu a gweithredu modelau busnes a chynllunio ariannol ar gyfer ein lleoliadau gofal plant a gynhelir gan y Cyngor.
Gan weithio'n agos gydag uwch-reolwyr a chydweithwyr corfforaethol, byddwch yn ymgymryd â modelu ariannol, cynllunio busnes ac arfarniadau o opsiynau i lywio penderfyniadau am ddarparu gwasanaethau yn y dyfodol, buddsoddi a thwf, gan gynnwys cyfleoedd i ddatblygu darpariaeth gofal plant newydd.
Yr hyn rydym yn chwilio amdano
Rydym yn chwilio am rywun sy'n gallu cyfuno sgiliau dadansoddol ac ariannol cryf â chreadigrwydd, meddwl strategol a dull ymarferol o ddatrys problemau.
Bydd gennych:
Profiad o gynllunio busnes, modelu ariannol neu drawsnewid gwasanaethau.
Y gallu i ddadansoddi gwybodaeth gymhleth a throsi canfyddiadau yn argymhellion clir, ymarferol.
Sgiliau cryf o ran cyfathrebu a meithrin perthynas gyda'r hyder i herio rhagdybiaethau a dylanwadu ar benderfyniadau.
Gallu gweithio'n annibynnol, rheoli blaenoriaethau sy'n cystadlu â'i gilydd ac ysgogi gwelliannau.
Byddai gwybodaeth am y sector blynyddoedd cynnar a gofal plant yn fantais, ond nid yw'n hanfodol.
Mae hwn yn gyfle i wneud cyfraniad ystyrlon at raglen fawr o newid, gan helpu i sicrhau darpariaeth gofal plant gynaliadwy i blant a theuluoedd ledled Pen-y-bont ar Ogwr.
I gael sgwrs anffurfiol am y rôl ac i ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych, cysylltwch â Stephanie Thomas (stephanie.thomas@bridgend.gov.uk), Rheolwr Addysg Gynnar a Gofal Plant, i drefnu amser addas ar gyfer sgwrs.
Sylwer bod y rôl wedi'i lleoli yng Nghanolfan Blant Integredig Corneli gydag elfen o weithio hybrid a'r gofyniad i ymweld â lleoliadau ledled y fwrdeistref sirol hefyd wedi'i gynnwys fel rhan o'r rôl hon. Felly, rhaid i ymgeiswyr gael cysylltiad dibynadwy â'r rhyngrwyd yn y cartref, trwydded yrru lawn a char at eu defnydd nhw yn unig yn ystod oriau gwaith.
Os ydych yn teimlo eich bod yn meddu ar y sgiliau, y profiad a'r angerdd angenrheidiol i ffynnu yn yr hyn sy'n addo bod yn rôl amrywiol, gyffrous a phrysur, edrychwn ymlaen at dderbyn eich cais.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Mae'n ddymunol y byddwch yn gallu sgwrsio ac ymateb i ohebiaeth yn hyderus ac yn rhwydd yn y Gymraeg.
Mae trwydded yrru ddilys yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 25 Tachwedd 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 26 Tachwedd 2026
Dyddiad y Cyfweliad: 04 Rhagfyr 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person