37 awr yr wythnos
A ydych yn angerddol am wella bywydau plant a phobl ifanc? A ydych am weithio i gyflogwr sy'n rhoi pwys mawr ar oruchwylio o ansawdd uchel, llesiant a datblygu gyrfa?
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig cyfleoedd gwych i ddatblygu eich gyrfa ym maes gwaith cymdeithasol.
Rydym wrthi ar hyn o bryd yn recriwtio Uwch-ymarferydd. Byddai'r Uwch-ymarferydd yn ymuno â'r tîm rheoli yn y Tîm 15+ sy'n cynnwys Rheolwr Tîm a Dirprwy Reolwr tîm. Mae'r tîm yn gweithio gyda phlant â phrofiad o fod mewn gofal rhwng 15 a 25 oed.
Yn ddiweddar, mae'r awdurdod lleol wedi lansio'r dull arwyddion diogelwch a fydd yn sail i'n holl ymarfer ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Bydd yr holl staff newydd yn cael cyfres o hyfforddiant a fydd yn eu cynorthwyo i ddatblygu eu harfer yn unol ag egwyddorion y model ac ymarfer sy'n datblygu cryfder.
Rydym yn sefydliad myfyriol sy'n adeiladu ar ei gryfderau yn barhaus ac sy'n ymrwymedig i'r egwyddor mai'r ffordd fwyaf effeithiol o wella canlyniadau i'r holl blant, pobl ifanc a theuluoedd yw drwy ddarparu gwasanaethau hygyrch, cyffredinol.
Gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gyflogwr i chi, gallwch ddisgwyl gweithio mewn amgylchedd gwerth chweil ac addysgol lle mae staff yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi. I gael rhagor o wybodaeth am weithio fel gweithiwr cyswllt dan oruchwyliaeth ym Mhen-y-bont ar Ogwr, cysylltwch â'r Rheolwr Tîm Vanessa John Vanessa.john1@bridgend.gov.uk 01656815111
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn ofyniad ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion sydd mewn perygl yn gyfrifoldeb craidd i holl weithwyr y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda rhestr Gwaharddedig Oedolion a Phlant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn ofyniad ar gyfer y swydd hon.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Mae trwydded yrru ddilys yn ofynnol ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 11 Mawrth 2026
Dyddiad Llunio Rhestr Fer: 13 Mawrth 2026
Dyddiad Cyfweliad: 20 Mawrth 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person