32 awr yr wythnos
A oes gennych brofiad o weithio ym maes Gofal Preswyl Plant?
Os felly, yna mae hon yn adeg gyffrous i ymuno â CBS Pen-y-bont ar Ogwr wrth i ni barhau i ailfodelu'r ffordd rydym yn diwallu anghenion plant a phobl ifanc y mae angen ein cymorth arnynt. Rydym yn parhau i ehangu ar ein darpariaeth gydag ychwanegiad gwasanaeth newydd.
Mae'r cartrefi yn darparu lleoliadau o hyd amrywiol i blant/pobl ifanc yn yr ystod oedran 6 i 18 oed (ar adeg eu derbyn) nad ydynt am resymau amrywiol yn gallu byw gyda'u teulu uniongyrchol neu estynedig eu hunain.
Mae'r cartrefi yn ymrwymedig i gynnig amgylchedd ysgogol, diogel, gofalgar sy'n hyrwyddo dull cyfannol ar gyfer pob agwedd ar fywyd y plentyn/person ifanc.
Nod y cartrefi yw:
-Darparu pecyn cymorth unigol i blant/pobl ifanc sy'n canolbwyntio ar eu hanghenion asesedig.
- Cynnig ymyriadau sy'n seiliedig ar wybodaeth therapiwtig i blant/pobl ifanc i'w cynorthwyo i gyflawni llesiant personol.
- Cynorthwyo plant/pobl ifanc i archwilio eu materion a'u profiadau eu hunain a gweithio drwy unrhyw emosiynau a theimladau a allai fod yn rhwystr i leoliad sefydlog a llety yn y dyfodol.
- Darparu lefelau cymorth priodol sy'n cydnabod, yn gwerthfawrogi, ac yn annog plant/pobl ifanc i gynnal sgiliau a chymwyseddau personol a hyrwyddo eu hyder a'u hunan-barch.
- Darparu pecyn cynhwysfawr o gymorth addysgol i hyrwyddo'r canlyniadau gorau posibl i blant/pobl ifanc yn eu lleoliad addysgol.
- Gweithio'n agos gyda theuluoedd neu deuluoedd dirprwyol i sicrhau pan fydd plant/pobl ifanc yn dychwelyd adref neu'n mynd i leoliadau addas eraill, bod annibyniaeth eu person ifanc yn cael ei hyrwyddo.
- Darparu rhaglenni byw'n annibynnol sy'n briodol i oedran er mwyn cynorthwyo pobl ifanc i ddatblygu'r sgiliau angenrheidiol i'w galluogi i fyw'n annibynnol, os yw hynny'n briodol.
A chithau'n Arweinydd Shifft Preswyl Plant ym Mhen-y-bont ar Ogwr, er y byddwch wedi'ch lleoli mewn un gwasanaeth, ar adegau efallai y bydd yn ofynnol i chi weithio ar draws amrywiaeth o wasanaethau gan gynorthwyo pobl ifanc a'r gwasanaeth preswyl yn ei gyfanrwydd. Byddwch yn gymwys yn unol â'r fframwaith cymwysterau (neu'n barod i weithio tuag at y cymhwyster) yn ogystal â meddu ar brofiad o weithio ym maes gofal preswyl plant. Bydd yr arweinydd shifft yn gweithio'n agos gydag uwch aelodau o staff a rheolwyr ond bydd yn cymryd cyfrifoldeb am drefnu, cynllunio ac arwain shifftiau pan fo angen. Mae'r cyfrifoldebau'n cynnwys gweithio'n uniongyrchol gyda phlant, cysylltu â gweithwyr proffesiynol eraill, mynychu cyfarfodydd, ysgrifennu adroddiadau a chwblhau unrhyw dasgau sy'n gysylltiedig â'r rôl.
A ydych yn teimlo eich bod am fod yng nghanol datblygiad parhaus a bod yn rhan o wasanaeth cynyddol sy'n cynnig llwybrau posibl i ddatblygiad a chyfleoedd yn y dyfodol? A allwch weithio i'r safonau uchaf, gan sicrhau bod y gwasanaeth yn parhau i gydymffurfio â Gofynion Rheoliadol a chefnogi plant a phobl ifanc i gyflawni'r canlyniadau gorau posibl? Os felly, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych!
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant ac Oedolion gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae cysgu i mewn, gweithio ar benwythnosau, a dyletswyddau wrth gefn yn ofyniad ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 17 Medi 2025
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 18 Medi 2025
Dyddiad y Cyfweliad: 30 Medi 2025
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person