37 awr yr wythnos
Rydym yn chwilio am Therapydd Galwedigaethol arloesol, brwdfrydig i ymuno â'n Tîm Adnoddau Cymunedol, gan ddarparu gwasanaethau asesu tymor byr i oedolion ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae'r Tîm Adnoddau Cymunedol yn wasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol integredig sy'n darparu amrywiaeth o ymyriadau tymor byr i bobl yn eu cartrefi eu hunain er mwyn hyrwyddo eu hannibyniaeth. Gan weithio fel rhan o dîm bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio'n effeithlon ac yn rhagweithiol i ddarparu ymyriadau therapi Galwedigaethol gyda chyfyngiadau amser effeithiol i gynorthwyo pobl i aros yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar lwyth gwaith wedi'i ddiffinio gan ddarparu ymyriadau seiliedig ar dystiolaeth i hyrwyddo annibyniaeth ac ansawdd bywyd.
Mae sgiliau cyfathrebu a threfnu gwych yn hanfodol yn y swydd hon. Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus gynllunio a rheoli ei amser yn effeithlon, gan gwblhau tasgau clinigol ac anghlinigol, er mwyn sicrhau bod llwythi gwaith yn cael eu rheoli'n effeithiol a'r gallu i ymateb yn hyblyg i anghenion y gwasanaeth.
Rydym yn chwilio am rywun sy'n frwdfrydig, yn llawn dychymyg, ac sy'n mwynhau'r her o ddatrys problemau, gan weithio gyda phobl mewn lleoliad cymunedol. Bydd angen i chi ddefnyddio amrywiaeth eang o'ch sgiliau Therapi Galwedigaethol, wrth weithio'n agos gyda phobl sydd ag amrywiaeth eang o anableddau, eu gofalwyr a'u teuluoedd.
Byddwn yn ymrwymedig i wella eich sgiliau a'ch datblygiad proffesiynol gyda sefydlu strwythuredig, cymorth grŵp cymheiriaid, goruchwyliaeth broffesiynol a thrwy ddarparu amrywiaeth eang o gyfleoedd hyfforddi a datblygu.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Oedolion gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae trwydded yrru ddilys yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 25 Medi 2025
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 26 Medi 2025
Dyddiad y Cyfweliad: 10 Hydref 2025
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person