37 awr yr wythnos
A ydych yn angerddol am wella bywydau plant a phobl ifanc? A ydych am weithio i gyflogwr sy'n rhoi pwys mawr ar oruchwylio o ansawdd uchel, llesiant a datblygu gyrfa?
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig cyfleoedd gwych i ddatblygu eich gyrfa ym maes gwaith cymdeithasol.
Rydym wrthi ar hyn o bryd yn recriwtio ar gyfer dirprwy reolwr tîm. Byddai'r dirprwy reolwr tîm yn ymuno â'r tîm rheoli yn y Tîm 16+ sy'n cynnwys rheolwr tîm ac un uwch ymarferydd. Mae'r tîm yn gweithio gyda phlant â phrofiad o fod mewn gofal rhwng 15.5 a 25 oed.
Yn ddiweddar, mae'r awdurdod lleol wedi lansio'r dull arwyddion diogelwch a fydd yn sail i'n holl ymarfer ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Bydd yr holl staff newydd yn cael cyfres o hyfforddiant a fydd yn eu cynorthwyo i ddatblygu eu harfer yn unol ag egwyddorion y model ac ymarfer sy'n datblygu cryfder.
Rydym yn sefydliad myfyriol sy'n adeiladu ar ei gryfderau yn barhaus ac sy'n ymrwymedig i'r egwyddor mai'r ffordd fwyaf effeithiol o wella canlyniadau i'r holl blant, pobl ifanc a theuluoedd yw drwy ddarparu gwasanaethau hygyrch, cyffredinol.
Gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gyflogwr i chi, gallwch ddisgwyl gweithio mewn amgylchedd gwerth chweil ac addysgol lle mae staff yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi. I gael rhagor o wybodaeth am weithio fel gweithiwr cyswllt dan oruchwyliaeth ym Mhen-y-bont ar Ogwr, cysylltwch â Stuart Osborne yn stuart.osbone@bridgend.gov.uk.
Hefyd:
Hyd at £8,000 o ffioedd adleoli
Talu ffioedd proffesiynol
Arferion gwaith hyblyg
24 diwrnod o wyliau, gan godi i 29 diwrnod ynghyd â gwyliau banc
Cyfle i brynu hyd at 2 wythnos o wyliau ychwanegol
Pensiwn awdurdod lleol â chymhorthdal
Gostyngiadau i weithwyr, ar-lein ac mewn siopau
Aberthu cyflog, gan gynnwys cynlluniau beicio i'r gwaith, ceir ar brydles
buddiannau iechyd a llesiant
Dyddiad Cau: 17 Goffennaf 2024
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 18 Goffennaf 2024
Dyddiad y Cyfweliad: 1 Awst 2024
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person