37 awr yr wythnos
Mae hon yn adeg gyffrous i ymuno â CBS Pen-y-bont ar Ogwr wrth i ni barhau i ailfodelu'r ffordd rydym yn diwallu anghenion plant y mae angen ein cymorth arnynt yn unol ag agenda Llywodraeth Cymru i roi terfyn ar elw mewn gwasanaethau preswyl plant yng Nghymru.
Mae Sunny Bank yn gartref pwrpasol a fydd yn darparu asesu, gofal a chymorth i bobl ifanc rhwng 8 ac 17 oed. Gellir lleoli hyd at bedwar o bobl ifanc o unrhyw rywedd yn y gwasanaeth ar unrhyw un adeg.
Bydd Sunny Bank yn cynnig amgylchedd therapiwtig i blant a phobl ifanc, gan ddefnyddio dull sy'n cael ei lywio gan drawma i ddarparu'r cymorth mwyaf effeithiol posibl. Eu galluogi i ddeall eu hamgylchiadau unigol, datblygu sgiliau gwydnwch a hunanofal.
Bydd gan Sunny Bank fynediad at Ddadansoddwr Ymddygiad Ardystiedig Bwrdd ar y safle a fydd yn cynorthwyo'r gwaith o asesu ac ymyriadau therapiwtig i bobl ifanc ac yn gweithio'n agos gyda'r staff i ddatblygu Cynlluniau Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol pwrpasol i leihau ymddygiad heriol a chynorthwyo newid ymddygiad cadarnhaol.
A chithau'n Weithiwr Preswyl Arweinydd Shifft, bydd angen i chi fod wedi cymhwyso i FfCCh lefel 3 mewn plant a phobl ifanc neu gyfwerth, neu'n gweithio tuag at y cymhwyster hwn yn unol â'r fframwaith Cymwysterau ar gyfer y Sector Gofal Cymdeithasol yng Nghymru. Bydd angen i chi fod wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru hefyd.
A ydych yn teimlo eich bod am fod yng nghanol datblygiad parhaus y dull arloesol hwn o ofal? A ydych yn gallu gweithio'n hyblyg? A allwch weithio i'r safonau uchaf, gan sicrhau bod y cartref yn parhau i gydymffurfio â Gofynion Rheoliadol ac yn cynorthwyo plant a phobl ifanc i gyflawni'r canlyniadau gorau posibl? Os felly, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych!
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant ac Oedolion gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Cysgu i Mewn a Gweithio ar Benwythnosau yn un o ofynion y swydd hon.
Dyddiad Cau: 09 Gorffennaf 2025
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 10 Gorffennaf 2025 2025
Dyddiad y Cyfweliad: 17 Gorffennaf 2025
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person