35 awr yr wythnos
Cyfnod mamolaeth
Amser Tymor
Tymor Penodol tan 31 Mawrth 2028
Dros dro am hyd at 12 mis neu hyd nes y bydd deiliad y swydd yn dychwelyd; pa un bynnag sydd gynharaf
A ydych yn angerddol am wneud gwahaniaeth i fywydau plant ifanc?
Rydym yn chwilio am Weithiwr Gofal Plant ymroddedig a brwdfrydig i ymuno â'n tîm Dechrau'n Deg, gan gefnogi plant 2-3 oed i roi'r dechrau gorau iddynt mewn bywyd.
Pam ymuno â ni?
Mwynhewch fanteision gweithio yn ystod y tymor, gan gynnig cydbwysedd gwych rhwng bywyd a gwaith.
Mynediad at Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol hael.
Byddwch yn rhan o dîm cefnogol, proffesiynol sy'n ymrwymedig i ddarparu addysg blynyddoedd cynnar o ansawdd uchel.
Byddwch yn gweithio’n agos gydag amrywiaeth o weithwyr proffesiynol drwy bartneriaethau amlasiantaethol, gan sicrhau bod plant a theuluoedd yn cael y cymorth gorau posibl.
Cyfleoedd parhaus ar gyfer datblygiad proffesiynol a hyfforddiant.
Yr hyn rydym yn chwilio amdano:
Rhywun sydd ag angerdd gwirioneddol am weithio gyda phlant ifanc.
Unigolyn gofalgar, llawn cymhelliant, a dibynadwy sy'n ymrwymedig i gefnogi datblygiad plant.
Profiad neu ddealltwriaeth o weithio amlasiantaethol i gefnogi teuluoedd yn gyfannol.
Bydd yn meddu ar gymhwyster gofal plant Lefel 3 perthnasol, yn ddelfrydol yn gweithio tuag at gymhwyster lefel 4 arweinyddiaeth a rheoli fel y nodir yn Fframwaith Cymwysterau Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer Dechrau'n Deg.
https://gofalcymdeithasol.cymru/cymwysterau-ac-ariannu/fframwaith-cymwysterau
Mae hwn yn gyfle gwych i fod yn rhan o wasanaeth gwerth chweil sy'n canolbwyntio ar y gymuned ac sy'n helpu i roi'r dechrau gorau posibl mewn bywyd i blant. Mae'r swydd wedi'i lleoli rhwng ein lleoliadau Garth a Blaenllynfi yng Nghwm Llynfi ac mae i ddechrau ar gyfer cyfnod o absenoldeb mamolaeth, gyda'r posibilrwydd o estyniad, yn amodol ar nifer y plant sydd ar y gofrestr yn y lleoliadau.
Gwnewch gais heddiw a'n helpu i lunio dyfodol ein dysgwyr ieuengaf!
I gael rhagor o wybodaeth neu i wneud cais, cysylltwch â Rowena Lee ar Rowena.Lee@bridgend.gov.uk.
Mae'n ofyniad hanfodol eich bod yn gallu sgwrsio ac ymateb i ohebiaeth yn Gymraeg, gyda hyder ac yn rhwydd.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae trwydded yrru ddilys yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 09 Rhagfyr 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 2026
Dyddiad y Cyfweliad: 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person