37 awr yr wythnos
Mae'r Tîm Gofal gan Berthynas a Sefydlogrwydd ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn asesu ac yn cynorthwyo Gofalwyr Maeth sy'n Berthynas a Gwarcheidwaid Arbennig. Mae rôl yr Uwch-ymarferydd yn gyfle cyffrous i fod yn rhan o wasanaeth cyflym, cynyddol sy'n cynorthwyo gofalwyr maeth a Gwarcheidwaid i ddarparu'r gofal gorau posibl i blant.
Rydym yn chwilio am Uwch-ymarferydd profiadol sydd â gwybodaeth ragorol am reoliadau, deddfwriaeth a chanllawiau sy'n gysylltiedig â gofal gan berthynas a sefydlogrwydd. Mae profiad o waith Llys yn hanfodol ar gyfer y rôl, a fydd yn cynnwys gweithio'n agos gyda'r adran gyfreithiol a thimau plant. Bydd y rôl yn cynnwys goruchwylio a rheoli perfformiad gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr cymorth yn ogystal â sicrhau ansawdd asesiadau, adolygiadau a chynlluniau cymorth.
Mae'r Tîm Gofal gan Berthynas a Sefydlogrwydd wedi'i gyd-leoli â'r Tîm Maethu Cyffredinol a Lleoliadau, Plant sydd â Phrofiad o fod mewn Gofal a thimau 16+ i alluogi cydweithio effeithiol, wedi'i leoli yn y Swyddfeydd Dinesig. Mae gan yr awdurdod lleol drefniadau gweithio hyblyg ar gael gan gynnwys cyfleoedd gweithio hybrid. Byddwch yn cael goruchwyliaeth o ansawdd uchel, reolaidd yn ogystal â mynediad at gyfleoedd hyfforddi a gyrfa. Er ein bod yn awdurdod lleol Arwyddion Diogelwch, nid yw hyfforddiant blaenorol a phrofiad o'r model yn ofyniad gan ein bod yn darparu hyfforddiant rheolaidd i gynorthwyo'r holl staff sy'n defnyddio'r model yn ymarferol a swyddog penodedig i gynorthwyo'r timau i integreiddio'r model yn eu trefniadau gweithio bob dydd.
Rydym yn chwilio am berson sydd â phrofiad o ddatblygu a chynnal perthnasoedd gwaith cydweithredol gyda phartneriaid a chynorthwyo staff drwy newid, gydag ymrwymiad i ddysgu a datblygu. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn weithiwr cymdeithasol cymwysedig gyda phrofiad maethu a goruchwylio a gwybodaeth drylwyr am reoliadau maethu ac SGO a deddfwriaeth plant berthnasol yng Nghymru.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Dyddiad cau: 29 Gorffennaf 2024 Dyddiad llunio rhestr fer: 30 Gorffennaf 2024 Dyddiad Cyfweld: 13 Awst 2024
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person