37 awr yr wythnos
Dros dro am hyd at 12 mis neu hyd nes y bydd deiliad y swydd yn dychwelyd; pa un bynnag sydd gynharaf.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, gyda phartneriaid eraill, wedi datblygu fframwaith ar gyfer dull mwy integredig o ddarparu gwasanaethau i blant, pobl ifanc a theuluoedd. Mae Gweithwyr Cymorth i Deuluoedd Dechrau'n Deg yn rhan o dîm ardal aml-broffesiynol o weithwyr rheng flaen sy'n darparu gwaith ymyriad cynnar a chymorth gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd.
Rydym yn chwilio am unigolyn egnïol, llawn cymhelliant sydd â sgiliau trefnu a rhyngbersonol gwych. Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn ymrwymedig i weithio mewn amgylch amlasiantaethol ac yn meddu ar brofiad llwyddiannus o weithio gyda phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd.
I gael trafodaeth anffurfiol am y rolau, ffoniwch Amy, Rheolwr Ardal Ymyrryd yn Gynnar (Canolfan y Gogledd) ar 01656 642651
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae trwydded yrru ddilys yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Dyddiad Cau: 18 Mehefin 2025
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 19 Mehefin 2025
Dyddiad y Cyfweliad: 01 Gorffennaf 2025
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person