37 awr yr wythnos
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig cyfle gwych i chi ddatblygu eich gyrfa ym maes gofal cymdeithasol. Rydym am i'r gweithwyr cymdeithasol gorau ymuno â ni - dyma y mae ein plant a'n teuluoedd yn ei haeddu.
Rydym yn sefydliad myfyriol sy'n adeiladu ar ei gryfderau yn barhaus ac sy'n ymrwymedig i'r egwyddor mai'r ffordd fwyaf effeithiol o wella canlyniadau i'r holl Blant, Pobl Ifanc a Theuluoedd yw drwy ddarparu gwasanaethau hygyrch, cyffredinol. Ymunwch â ni a byddwch yn gweithio mewn amgylchedd gwobrwyol lle mae'r staff yn cael eu gwerthfawrogi.
Rydym yn chwilio am Weithiwr Cymdeithasol profiadol a brwdfrydig i ymuno â'r MASH (Canolfan Ddiogelu Amlasiantaethol) sydd yr un mor ymroddedig â ni wrth weithio tuag at gyflawni canlyniadau cadarnhaol i blant a theuluoedd. Mae gwaith MASH yn gydweithrediad agos ag asiantaethau partner fel Heddlu De Cymru ac Iechyd er mwyn cefnogi teuluoedd yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, ynghyd â diogelu ein plant mwyaf agored i niwed.
Eich rôl chi fydd cefnogi cynnydd atgyfeiriadau trwy gysylltu â gweithwyr proffesiynol a theuluoedd i weld pa gymorth sydd ei angen a chasglu a dadansoddi gwybodaeth. Bydd disgwyl i chi hefyd gefnogi ymarferwyr heb gymwysterau i wneud yr un peth. Bydd gofyn i chi fynychu cyfarfodydd strategaeth ac mewn rhai sefyllfaoedd, gofynnir i chi ymgymryd ag ymweliadau cartref.
Rydym yn annog ceisiadau gan Weithwyr Cymdeithasol profiadol a'r rhai yn eu dwy flynedd gyntaf o wasanaeth. Yn gyfnewid byddwch yn cael cyfnod sefydlu cadarn, goruchwyliaeth reolaidd, cymorth ychwanegol a mentora lle y bo angen. Ym Mhen-y-bont ar Ogwr rydym wedi ymrwymo i'r model ymarfer Arwyddion Diogelwch a darperir hyfforddiant llawn i'r ymgeisydd llwyddiannus.
Yn ogystal byddwch yn gallu datblygu eich gyrfa ymhellach gyda chyfleoedd datblygu a dyrchafu.
Am ragor o wybodaeth ynghylch y swydd cysylltwch â Rachel Hawkins, Rheolwr Tîm MASH, ar 01656 642320.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Dyddiad Cau: 24 Rhagfyr 2025
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 30 Rhagfyr 2025
Dyddiad y Cyfweliad: 07 Ionawr 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person