Cyfnod Penodol tan 31 Mawrth 202537 awr yr wythnosMae'r awdurdod lleol yn ymroddedig i ddefnyddio'r sail dystiolaeth gynyddol ar gyfer datblygu gwasanaethau arloesol sy'n gweithio'n effeithiol gyda theuluoedd sy'n dioddef sawl symptom o allgáu cymdeithasol ac sydd wedyn yn dibynnu'n sylweddol ar amrywiaeth eang o wasanaethau cyhoeddus.Yn y cyd-destun hwn, mae cyfle cyffrous wedi codi i fod yn rhan o wasanaethau amlasiantaethol wedi'u cyd-leoli i blant a theuluoedd. Rydym yn chwilio am Uwch-weithiwr Cymorth i Deuluoedd i ymuno â'n gwasanaeth ymyriadau teuluol sydd ag agwedd ‘gallu gwneud’ ac sy'n ymrwymedig i ddarparu gwasanaeth hanfodol i gefnogi teuluoedd i sicrhau newid yn eu bywydau eu hunain. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar yr egni i wella safonau yn y gwasanaeth a chynorthwyo staff i gyflawni canlyniadau cynaliadwy i deuluoedd sy'n wynebu anawsterau lluosog a chymhleth.Mae'r rôl yn cynnwys datblygu'r gwasanaeth, yn ogystal â goruchwylio a chynorthwyo tîm o weithwyr cymorth i deuluoedd sy'n gweithio gyda theuluoedd yn eu cartrefi a'u cymunedau eu hunain. Byddwch yn goruchwylio gweithwyr cymorth i deuluoedd a'u cynorthwyo i ddatblygu pecynnau ymatebol, wedi'u teilwra o gymorth yn unol ag angen a aseswyd ac a nodwyd a chytuno gydag aelodau o'r teulu nodau realistig a chynaliadwy ar gyfer newid. A chithau'n uwch aelod o dîm amlasiantaethol, byddwch yn canolbwyntio ar wasanaeth sy'n cynorthwyo teuluoedd i feithrin cydnerthedd er mwyn gwella canlyniadau hirdymor i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd.Mae hwn yn gyfle cyffrous i arloesi a datblygu eich sgiliau mewn rôl oruchwylio mewn gwaith gyda phlant a theuluoedd. Os ydych yn cael eich denu gan y gwaith hwn ac yn gallu bodloni gofynion manyleb y person edrychwn ymlaen at glywed gennych. Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 03 Gorffennaf 2024
Dyddiad llunio rhestr fer: 05 Gorffennaf 2024
Dyddiad Cyfweld: 12 Gorffennaf 2024
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person