37 awr yr wythnos
Cyfnod Penodol – 1 flwyddyn
Mae'r Tîm Adnoddau Cymunedol yn cynorthwyo unigolion i sicrhau cymaint o annibyniaeth â phosibl yn eu hamgylchedd cartref drwy gyflwyno amrywiaeth o ofal canolraddol a gwasanaethau cymunedol.
Mae'r Tîm Adnoddau Cymunedol yn cynnwys y canlynol: Tîm Clinigol Acíwt, Tîm Teleofal ac Ymateb Symudol, Ailalluogi Cymunedol, Uned Ailalluogi, Canolfan Ymyrryd ac Atal yn Gynnar, Tîm Synhwyraidd, Lleferydd ac Iaith, Fferylliaeth a'r Gwasanaeth Offer Cymunedol Integredig.
Byddwch yn sicrhau bod unigolion sy'n derbyn Gwasanaeth Teleofal Bridgelink yn defnyddio'r offer TEC/teleofal mwyaf priodol ac effeithiol i ddiwallu eu hanghenion newidiol. Cyflawnir hyn drwy weithio gyda rhagnodwyr, rhanddeiliaid mewnol a'r gwasanaethau allanol hynny a gomisiynir gan y cyngor i ddarparu agweddau ar y gwasanaeth TEC/Teleofal.
Byddwch yn datblygu ac yn cynnal gwybodaeth gynhwysfawr am offer Teleofal a Gofal a Alluogir gan Dechnoleg (TEC), ei ddefnydd, cymhwysiad, a'i effeithiolrwydd. Byddwch yn cynghori staff proffesiynol ar ei ddefnydd ac adolygu cleientiaid presennol yn y gwasanaeth Teleofal i sicrhau bod eu hoffer yn briodol ac yn cefnogi byw'n annibynnol - gan ymestyn yr amser y gall pobl fyw gartref.
Uchafbwyntiau:
- Cyflog: £25,584 y flwyddyn
- Cynllun pensiwn cwmni ardderchog
- Hawl i wyliau blynyddol hael
- Trefniadau gweithio hyblyg
- Cynllun parcio car am bris gostyngol a lwfans milltiroedd
- Cymorth iechyd a llesiant
- Buddion staff a chynlluniau aberthu cyflog.
- Cyfleoedd hyfforddi a datblygu
- Aelodaeth am bris gostyngol mewn canolfannau hamdden
- Cyfleoedd dilyniant gyrfa
- Cynllun beicio i'r gwaith.
Gofynion:
Gwybodaeth gyfredol a gwybodaeth dda am dechnolegau digidol neu barodrwydd i ddysgu. Sgiliau cyfathrebu sydd wedi'u datblygu'n dda Profiad o weithio mewn amgylchedd swyddfa cyflym, sgiliau T.G. da a phrofiad blaenorol o ddefnyddio systemau swyddfa. Gan weithio mewn amgylchedd sy'n cael ei ysgogi gan gleientiaid, bydd gennych sgiliau cyfathrebu rhagorol, a'r gallu i weithio o fewn amserlenni llym a bodloni amrywiaeth o derfynau amser.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae trwydded yrru ddilys yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Dyddiad Cau: 18 Mehefin 2025
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 26 Mehefin 2025
Dyddiad y Cyfweliad: 08 Gorffennaf 2025
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person