18.5 awr yr wythnos
Cyfnod penodol hyd at 12 mis
18.5 awr yr wythnos, o fewn trefniadau rhannu swydd. Mae rhannu swydd yn fath o drefniant gweithio hyblyg lle mae dau gyflogai'n rhannu cyfrifoldebau, dyletswyddau ac oriau un rôl amser llawn. Mae pob person yn gweithio oriau rhan-amser, gyda'r ddau unigolyn yn cyfrannu at ganlyniadau cyffredinol y rôl.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig cyfle gwych i chi ddatblygu eich gyrfa ym maes gofal cymdeithasol.
Mae'r Tîm Diogelu Oedolion a Threfniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid (DoLS) yn chwilio am unigolyn profiadol a brwdfrydig i ymuno â'r MASH (Canolfan Ddiogelu Amlasiantaethol). Mae'r Tîm yn gyfeillgar, yn gyflym ac yn gefnogol, ac yn ymrwymedig i weithio tuag at a sicrhau canlyniadau cadarnhaol i ddinasyddion yn ein hardal.
Mae'r MASH yn cydweithio'n agos ag asiantaethau partner fel Heddlu De Cymru a'r Bwrdd Iechyd Lleol, er mwyn cefnogi unigolion yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, a Gweithdrefnau Diogelu Cymru.
Ynghyd ag ymateb i adroddiadau Oedolion mewn Perygl, mae ein tîm yn hyrwyddo ymyrraeth gynnar a gweithio mewn partneriaeth ataliol drwy fynychu fforymau amlasiantaethol a chryfhau perthnasoedd gwaith gyda sefydliadau'r trydydd sector, sy'n cynorthwyo â chyfeirio'n effeithiol ynghyd â gwella'r canlyniadau i breswylwyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Yn ogystal byddwch yn gallu datblygu eich gyrfa ymhellach gyda chyfleoedd datblygu a dyrchafu.
I gael rhagor o wybodaeth am y swydd cysylltwch â Bethan Jones, Rheolwr Tîm Diogelu Oedolion a DoLS ar bethan.jones@bridgend.gov.uk
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Oedolion gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Dyddiad Cau: 10 Rhagfyr 2025
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 12 Rhagfyr 2025
Dyddiad y Cyfweliad: 22 Rhagfyr 2025
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person