32 awr yr wythnos
Mae hon yn adeg gyffrous i ymuno â CBS Pen-y-bont ar Ogwr wrth i ni barhau i ailfodelu'r ffordd rydym yn diwallu anghenion plant y mae angen ein cymorth arnynt yn unol ag agenda Llywodraeth Cymru i roi terfyn ar elw mewn gwasanaethau preswyl plant yng Nghymru.
Mae Tŷ Hillsboro yn rhoi gofal a chymorth i un plentyn/person ifanc rhwng 8 a 25 oed na ellir ei osod ochr yn ochr ag eraill oherwydd ei anghenion cymhleth.
Bydd Tŷ Hillsboro yn cael ei ddefnyddio fel lleoliad pontio tymor byr tuag at leoliad hirdymor mwy addas a sefydlog i berson ifanc. Bwriedir i'r gwasanaeth feddu ar y gallu i fod yn ‘anweithredol’ a dod yn weithredol ar fyr rybudd os caiff plentyn neu berson ifanc priodol ei atgyfeirio gyda newidiadau o ran y statws gwasanaeth yn cael eu cyfathrebu i AGC. Mae hyn yn golygu y bydd y gwasanaeth yn fwy adweithiol a gall hefyd osgoi'r opsiwn arall, sef lleoliad y tu allan i'r sir.
Mae Tŷ Hillsboro yn ceisio cynnig cyfle ar gyfer oedi a deall yr angen yn well er mwyn cynorthwyo â phontio ar gyfer y plentyn neu'r person ifanc i wasanaethau sy'n fwyaf addas i hyrwyddo newid a datblygu cadarnhaol.
Bydd y gwasanaeth yn canolbwyntio ar ddarparu amgylchedd therapiwtig i sefydlogi ymddygiad heriol plentyn/person ifanc, gweithio ar wella unrhyw ymddygiad cymryd risg, ailgysylltu ag addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth lle y bo angen a chynorthwyo'r broses o nodi lleoliadau hirdymor addas i symud ymlaen iddynt.
Fel gweithiwr preswyl plant bydd angen i chi fod yn barod i gwblhau'r Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan fel rhan o'ch sefydlu, yna'r FfCCh lefel 3 mewn plant a phobl ifanc fel y'i rhestrir yn y fframwaith Cymwysterau ar gyfer y Sector Gofal Cymdeithasol yng Nghymru. Bydd angen i chi fod wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru hefyd ar ôl cwblhau eich sefydlu'n llwyddiannus.
A ydych yn teimlo eich bod am fod yng nghanol datblygiad parhaus y dull arloesol hwn o ofal? A ydych yn gallu gweithio'n hyblyg? A allwch weithio i'r safonau uchaf, gan sicrhau bod y cartref yn parhau i gydymffurfio â Gofynion Rheoliadol ac yn cynorthwyo plant a phobl ifanc i gyflawni'r canlyniadau gorau posibl? Os felly, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych!
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae dyletswyddau Nos, Cysgu i Mewn, Gweithio ar Benwythnosau yn ofyniad ar gyfer y swydd hon
Dyddiad Cau: 27 Tachwedd 2024
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 29 Tachwedd 2024
Dyddiad y Cyfweliad: 12 Rhagfyr 2024
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person