37 awr yr wythnos
Tymor Penodol – 3 blynedd
Mae Uned Gwasanaeth TGCh y Cyngor yn ymrwymedig i ddarparu gwasanaeth Technoleg Gwybodaeth wedi'i arwain gan gwsmeriaid. Ein nod yw dangos gwelliant parhaus yn ein gwasanaethau drwy ddiwallu anghenion busnes ein cwsmeriaid drwy fuddsoddi mewn technoleg a gweithwyr.
Yn ein Huned Gwasanaeth TG rydym wir yn gweld y gwerth y mae prentisiaethau'n ei ychwanegu at ein gwasanaeth. Dros y blynyddoedd rydym wedi datblygu llawer o brentisiaid yn llwyddiannus a'u helpu i ddechrau gyrfa ym maes Technoleg Gwybodaeth. Mae gennym swydd prentis newydd yn y tîm cymorth bwrdd gwaith er mwyn cefnogi dyfeisiau a systemau gweithredu.
Rydym yn chwilio am ddysgwr gweithgar ac ymroddedig sy'n awyddus i ddechrau ar yrfa ym maes TGCh, byddwch yn gallu datblygu'n dechnegol mewn amgylchedd a fydd yn darparu profiad gwaith gwych ac yn cael budd o astudio sy'n arwain at gymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol ar lefel HNC neu radd os yw hynny'n bosibl. Bydd y cyfle i gael cymorth a dysgu a dderbyniwch yn sicrhau y byddwch yn meddu ar y sgiliau, y wybodaeth a'r cymwyseddau priodol i gychwyn ar yrfa mewn Technoleg Gwybodaeth yn y dyfodol.
Bydd gennych 5 TGAU, gan gynnwys Mathemateg a Saesneg ac yn meddu ar y brwdfrydedd a'r ysgogiad i ymgymryd â datblygu proffesiynol.
Ni fydd ceisiadau'n cael eu hystyried ar gyfer y rhai sydd eisoes wedi cyflawni cymhwyster ar NVQ Lefel 3, HNC neu lefel gradd mewn TGCh. A chithau eisoes yn hyddysg mewn cyfrifiadura, byddwch yn ddefnyddiwr hyfedr o dechnoleg gyda sgiliau cyfathrebu gwych a dealltwriaeth o bwysigrwydd gofal cwsmeriaid.
Yn ystod y brentisiaeth byddwch yn cael cymorth a chael eich mentora gan uwch reolwr tîm i ddatblygu eich gyrfa wrth gael budd o ddod i gysylltiad â thechnoleg newydd.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Dyddiad Cau: 12 Tachwedd 2025
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 14 Tachwedd 2025
Dyddiad y Cyfweliad: 25 Tachwedd 2025
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person