37 awr yr wythnos
Cyfnod Penodol hyd at 2 flynedd
Mae hwn yn gyfle newydd i chi ymuno â'n huned caffael corfforaethol a dilyn prentisiaeth, a fydd yn rhoi'r sgiliau a'r profiad i chi ddilyn gyrfa ym maes Caffael.
A chithau'n cael hyfforddiant yn y swydd a chymorth ymarferol i gyflawni lefel 3 mewn Rheoli'r Gadwyn Gyflenwi, byddwch hefyd yn cael y cyfle i weithio ochr yn ochr ag arbenigwyr categori profiadol.
Byddwch yn cynorthwyo'r tîm i ddarparu dull rheoli categorïau o gaffael, cymorth wrth weithredu a datblygu mentrau Caffael a chynnal y gofrestr o gontractau corfforaethol.
Gyda safon dda o addysg (isafswm o 5 TGAU gan gynnwys mathemateg a Saesneg a 2 Safon Uwch neu gyfwerth), bydd gennych brofiad cyffredinol ym maes adnoddau dynol, sgiliau dadansoddi a datrys problemau da a'r gallu i weithio gyda rheolwyr a chyflogeion ar draws y sefydliad. Bydd sylw da i fanylion a'r gallu i weithio'n rhesymegol ac ymrwymiad i ddysgu a datblygu parhaus yn allweddol i'ch llwyddiant.
Ni fydd ceisiadau'n cael eu hystyried ar gyfer y rhai sydd eisoes wedi cyflawni cymhwyster ar Lefel 3 neu uwch, gan gynnwys ar lefel gradd, mewn Rheoli'r Gadwyn Gyflenwi.
Byddwch yn dangos dull hyblyg o ran y rôl a dylech feddu ar ddealltwriaeth o gaffael o fewn lleoliad Llywodraeth Leol.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Dyddiad Cau: 26 Rhagfyr 2025
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person