25 & 30 awr yr wythnos
Rydym yn recriwtio staff cymorth i weithio yng Nglyn Cynffig. Rydym yn chwilio am bobl frwdfrydig, greadigol, a hyblyg i weithio gydag unigolion sy'n profi problemau iechyd meddwl, anawsterau dysgu ysgafn, mynd i'r afael â chamddefnyddio sylweddau ac eraill sy'n agored i niwed, gan eu galluogi i ennill y sgiliau sy'n angenrheidiol ar gyfer byw'n annibynnol. Bydd yn ofynnol i chi fonitro cynnydd ar weithredu cynlluniau unigol, gan gofnodi monitro o'r fath fel sy'n ofynnol. Mae dull cadarnhaol a chynorthwyol yn un o ofynion y rôl oherwydd bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus gynorthwyo pobl mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar y person gyda phob maes o anghenion a nodwyd. Bydd hyn yn cynnwys tasgau yn y cartref a domestig, siopa a pharatoi bwyd, hylendid, iechyd personol, cyllidebu, gweithgareddau cymdeithasol, cynnig arweiniad a chyngor i alluogi pobl i wneud penderfyniadau hyddysg ac arfer eu hawliau. Bydd disgwyl i chi gynorthwyo pobl i gofrestru gyda meddyg a deintydd o'u dewis, gan eu cynorthwyo yn ystod ymweliadau os yw hyn yn ofyniad.
Bydd y rôl yn cynnwys cofnodi'r holl drafodion ariannol sy'n berthnasol i Arian Mân, yn unol â Rheoliadau Ariannol.
I'ch cynorthwyo yn eich rôl byddwch yn cael hyfforddiant priodol, goruchwyliaeth un i un gyda'ch rheolwr llinell, yn ogystal â chyfarfodydd tîm rheolaidd.
Ar gyfer y swydd hon, bydd angen i chi fod yn hyblyg a byddwch yn cymryd rhan mewn gwaith shifft. Am ei bod yn ofynnol i chi weithio ar benwythnosau, nosweithiau pan fo angen a gwyliau banc mae gennych hawl i'r gyfradd uwch o amser a thraean ar gyfer yr oriau hyn. Bydd gennych ddyletswyddau cysgu i mewn, (telir lwfans ychwanegol am hyn). Bydd yr oriau'n cael eu trefnu gan reolwr y gwasanaeth ac mae'n amodol ar anghenion y bobl a gefnogir.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae dyletswyddau Nos, Cysgu i Mewn, Gweithio ar Benwythnosau
Dyddiad Cau: 27 Tachwedd 2024
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person