37 awr yr wythnos
Dros dro am hyd at 12 mis neu hyd nes y bydd deiliad y swydd yn dychwelyd; pa un bynnag sydd gynharaf
Bydd y swydd hon ar gael o fis Rhagfyr 2025.
Mae swydd wag ar gyfer dirprwy reolwr tîm (cyfnod mamolaeth) yn y tîm profiad o fod mewn gofal yn gweithio gyda'r rhai 0-15 oed ar ddiwedd achosion gofal a'r rhai sy'n cael eu mabwysiadu. Mae hwn yn dîm hynod gefnogol a llawn cymhelliant sy'n canolbwyntio ar lais y plentyn.
Gweledigaeth y tîm yw hwyluso tîm amlasiantaethol o amgylch y teulu i ddatblygu a chreu sefydlogrwydd i blant, sy'n helpu i gadw plant yn ddiogel, yn hapus ac yn iach, gan gefnogi perthnasoedd a helpu plant i wneud synnwyr o'u profiadau yn y gorffennol a'u profiadau presennol. Byddwn yn gwneud hyn i gyd er mwyn adeiladu dyfodol cadarnhaol ar gyfer y plentyn.
Byddech yn gweithio ochr yn ochr â dirprwy reolwr tîm arall, dau uwch ymarferydd a rheolwr tîm i ffurfio'r strwythur rheoli ar gyfer y tîm plant â phrofiad o fod mewn gofal. Byddech yn rhan o adeiladu strwythur rheoli cynnes a chefnogol ar gyfer y gweithwyr cymdeithasol a'r cynorthwywyr gwaith cymdeithasol yn y tîm. Byddech yn goruchwylio staff, yn cymryd rhan mewn cyfarfodydd rheolwyr ac yn cefnogi gweithwyr cymwysedig a heb gymhwyso yn y tîm.
Mae'r awdurdod lleol yn gweithio yn y dull arwyddion diogelwch ac mae'n canolbwyntio ar weithio yn y dull hwn sy'n seiliedig ar gryfderau gyda phlant a theuluoedd. Bydd yr holl staff newydd yn cael cyfres o hyfforddiant a fydd yn eu cynorthwyo i ddatblygu eu harfer yn unol ag egwyddorion y model. A chithau'n ddirprwy reolwr tîm byddech yn gyfrifol am hybu'r arfer hwn yn y tîm.
Os byddwch yn llwyddiannus, byddwch yn cael cyfnod sefydlu cadarn, goruchwyliaeth reolaidd, cymorth ychwanegol a mentora lle y bo angen. Yn ogystal â hyn, byddwch yn gallu datblygu eich gyrfa ymhellach gyda chyfleoedd datblygu a dyrchafu.
Rydym yn sefydliad myfyriol sy'n adeiladu ar ei gryfderau yn barhaus ac sy'n ymrwymedig i'r egwyddor mai'r ffordd fwyaf effeithiol o wella canlyniadau i'r holl blant, pobl ifanc a theuluoedd yw drwy ddarparu gwasanaethau hygyrch, cyffredinol.
Gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gyflogwr i chi, gallwch ddisgwyl gweithio mewn amgylchedd gwerth chweil ac addysgol lle mae staff yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi. I gael rhagor o wybodaeth am weithio fel uwch ymarferydd ym Mhen-y-bont ar Ogwr, cysylltwch â Sian Williams yn Sian.Williams1@bridgend.gov.uk
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Oedolion gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Dyddiad Cau: 15 Hydref 2025
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 24 Hydref 2025
Dyddiad y Cyfweliad: 19 Tachwedd 2025
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person