37 awr yr wythnos.
Dros dro hyd at 31 Mawrth 2026
Rydym ar daith uchelgeisiol i gyflawni dull gwirioneddol gydgynhyrchiol o weithio gyda phobl a'u gofalwyr. Credwn fod gan bawb gryfderau a'n cenhadaeth yw cynorthwyo pobl i gynnal eu hannibyniaeth er mwyn iddynt allu byw eu bywydau yn dda, credwn fod hyn yn dechrau ar y pwynt cyswllt cyntaf â'r adran. Mae ein “Model Ymarfer sy'n Seiliedig ar Gryfderau” yn cefnogi dull amlddisgyblaethol o alluogi a chynorthwyo pobl sy'n byw gyda phroblemau a achosir gan anabledd, eiddilwch a heneiddio. Byddant wedi'u lleoli yn y Ganolfan Ymyrryd ac Atal yn Gynnar, sy'n cynnwys y gwaith cymdeithasol tymor byr, gweithwyr cymorth cymunedol a'r ymateb drws blaen mewn Gofal Cymdeithasol i Oedolion. Mae'r tîm yn cefnogi dull amlddisgyblaethol, gan ganolbwyntio ar oedolion sydd ag anghenion cymhleth amlweddog a dirywiad gwybyddol. Mae'r gwasanaeth hwn yn canolbwyntio ar ganlyniadau i unigolion, gan sicrhau'r potensial mwyaf posibl a lleihau risg i annibyniaeth, gyda phwyslais ar ddewis a rheolaeth.
Mae cymhwyster cydnabyddedig mewn gwaith cymdeithasol a chofrestru gyda Chyngor Gofal Cymru yn hanfodol.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Oedolion gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae trwydded yrru ddilys yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Dyddiad Cau: 24 Rhagfyr 2025
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: Wythnos yn dechrau 12 Ionawr 2026
Dyddiad y Cyfweliad: Wythnos yn dechrau 19 Ionawr 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person