37 awr yr wythnos
A ydych yn angerddol am wneud gwahaniaeth i fywydau teuluoedd a phlant? Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn chwilio am Weithiwr Cymorth Camau Nesaf ymroddedig a thrugarog ar gyfer ein tîm.
Mae'r rôl yn cynnwys gweithio'n ddwys, cyn ac ar ôl genedigaeth, gyda rhieni a theuluoedd plan heb eu geni sydd mewn perygl o gael profiad o fod mewn gofal. Byddwch yn parhau i weithio gyda'r rhieni a'u teuluoedd os caiff achosion gofal eu cychwyn gan yr awdurdod lleol a bod y plentyn yn cael profiad o fod mewn gofal pan fydd y plentyn wedi cael ei eni.
Yn ogystal, byddwch yn datblygu ac yn darparu pecynnau cymorth pwrpasol i rieni sydd wedi colli gofal o'u plant drwy achosion llys a gychwynnwyd gan yr awdurdod lleol. Bydd y cymorth hwn yn cwmpasu gweithgareddau amrywiol gyda'r nod o sefydlogi eu bywydau, gan gynnwys cymorth cam-drin domestig; adolygu incwm a chymorth i fanteisio ar fudd-daliadau a mynd i'r afael â dyledion; cymorth i gael gafael ar dai saff a diogel; cymorth i gael gafael ar wasanaethau iechyd meddwl perthnasol; cymorth i leihau camddefnyddio alcohol neu gyffuriau; cymorth i leihau troseddu; cymorth i gymryd rhan mewn dysgu neu waith; a chymorth i ymgysylltu ag asiantaethau partner ynghylch atal cenhedlu.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Kayleigh Roper (Rheolwr Tîm Ar Ffiniau Gofal) – Kayleigh.roper@bridgend.gov.uk.
Os ydych yn ymrwymedig i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac yn meddu ar y sgiliau a'r profiad rydym yn chwilio amdanynt, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. Gwnewch gais nawr i ymuno â'n tîm ymroddedig a'n helpu i gynorthwyo teuluoedd ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae trwydded yrru ddilys yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Mae Gweithio ar y Penwythnos yn ofyniad ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 5 Mawrth 2025
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 6 Mawrth 2025
Dyddiad y Cyfweliad: 13 Mawrth 2025
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person