37 awr yr wythnosMae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig cyfle gwych i chi ddatblygu eich gyrfa ym maes gofal cymdeithasol. Rydym am i'r gweithwyr cymdeithasol gorau ymuno â ni - dyma y mae ein plant a'n teuluoedd yn ei haeddu.
Rydym yn sefydliad myfyriol sy'n adeiladu ar ei gryfderau yn barhaus ac sy'n ymrwymedig i'r egwyddor mai'r ffordd fwyaf effeithiol o wella canlyniadau i'r holl Blant, Pobl Ifanc a Theuluoedd yw drwy ddarparu gwasanaethau hygyrch, cyffredinol. Ymunwch â ni a byddwch yn gweithio mewn amgylchedd gwobrwyol lle mae'r staff yn cael eu gwerthfawrogi.
Rydym yn chwilio am Weithiwr Cymdeithasol profiadol a brwdfrydig i ymuno â'r Tîm Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth (IAA) o fewn MASH (Canolfan Ddiogelu Amlasiantaethol) sydd yr un mor ymroddedig â ni wrth weithio tuag at gyflawni canlyniadau cadarnhaol i blant a theuluoedd. Mae gwaith MASH yn gydweithrediad agos ag asiantaethau partner fel Heddlu De Cymru ac Iechyd er mwyn cefnogi teuluoedd yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, ynghyd â diogelu ein plant mwyaf agored i niwed.
Rydym yn annog ceisiadau gan Weithwyr Cymdeithasol profiadol a'r rhai sydd newydd gymhwyso. Yn gyfnewid byddwch yn cael cyfnod sefydlu cadarn, goruchwyliaeth reolaidd, cymorth ychwanegol a mentora lle y bo angen. Mae ein model ymarfer Gwaith Cymdeithasol, sef Arwyddion Diogelwch, wedi'i weithredu'n llawn yn ein Gwasanaeth IAA, felly byddwch yn derbyn hyfforddiant a chymorth yn y model hwn.
Yn ogystal byddwch yn gallu datblygu eich gyrfa ymhellach gyda chyfleoedd datblygu a dyrchafu.
I gael rhagor o wybodaeth am y swydd ffoniwch Lucy Ward, Rheolwr Tîm IAA ar 01656 642320.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae gwiriad gan Heddlu De Cymru yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae trwydded yrru ddilys yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Dyddiad Cau: 03 Medi 2025
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person