37 awr yr wythnos
Mae hwn yn gyfle cyffrous i unigolyn ymuno â'r Tîm Triniaeth Gartref fel Gweithiwr Cymorth Cymunedol, wedi'i leoli yn Ysbyty Tywysoges Cymru. Dyma wasanaeth arbenigol i oedolion â salwch meddwl difrifol a pharhaus a materion sydd o bosibl yn cyd-ddigwydd gan gynnwys problemau camddefnyddio sylweddau. Mae'r tîm yn cwmpasu Bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr.
Nod y tîm Triniaeth Gartref yw cynorthwyo pobl i fyw yn eu hamgylchedd o ddewis drwy atal achosion y gellir eu hosgoi o fynd i'r ysbyty a chynorthwyo rhyddhau cleifion o’r ysbyty.
Gan ddilyn model ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau ac asesiadau sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau, eich rôl fydd gweithio'n agos gydag unigolion, gan gynorthwyo yn eu gwellhad yn dilyn cyflwyno mewn argyfwng, yn y gymuned a/neu yn yr ysbyty a chynorthwyo'r unigolion hyn a'u gofalwyr i wella a chynnal annibyniaeth gartref neu gynorthwyo mewn achos o ryddhau'n gynnar o'r ysbyty. Bydd hyn yn cynnwys cwblhau ymyriadau byr gydag unigolion i'w cynorthwyo i aros yn annibynnol, cyfeirio i wasanaethau a gweithio'n agos gyda gweithwyr proffesiynol a'r tîm.
Gan weithio ochr yn ochr â thîm o weithwyr proffesiynol amlddisgyblaethol, byddwch yn darparu ymyriad a chymorth penodol sy'n canolbwyntio ar wella i unigolion sy'n dioddef problemau iechyd meddwl neu broblemau camddefnyddio sylweddau cysylltiedig o ganlyniad i'w sefyllfa gymdeithasol bresennol. Byddwch yn cael eich rheoli gan yr Uwch-ymarferydd Gwaith Cymdeithasol yn y Tîm Triniaeth Gartref.
I gael trafodaeth anffurfiol am y swydd hon, ffoniwch Emma-Jayne Roche ar 07891330977.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant ac Oedolion gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 26 Tachwedd 2025
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 01 Rhagfyr 2025
Dyddiad y Cyfweliad: 09 Rhagfyr 2025
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person