37 awr yr wythnos
Mae hon yn adeg gyffrous i ymuno â CBS Pen-y-bont ar Ogwr wrth i ni barhau i ailfodelu'r ffordd rydym yn diwallu anghenion plant y mae angen ein cymorth arnynt yn unol ag agenda Llywodraeth Cymru i roi terfyn ar elw mewn gwasanaethau preswyl plant yng Nghymru.
Mae Golygfa’r Dolydd yn lle hwyl a bywiog i weithio ynddo. Mae'r gwasanaeth yn ei gwneud yn ofynnol bod pob aelod o'r tîm yn ymroddedig, yn dosturiol ac yn y pen draw yn rhoi anghenion y plant yn gyntaf. Rhaid i aelodau'r tîm fod yn ymrwymedig i weithio mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar y person er mwyn diwallu anghenion y plant. Rhaid i bob aelod o'r tîm weithio'n dda gydag eraill a gweithio'n dda mewn tîm.
Mae Golygfa'r Dolydd yn gartref pwrpasol newydd sy'n darparu gofal a chymorth i bobl ifanc rhwng 6 ac 17 oed. Mae'r gwasanaeth yn cynnwys dwy ran benodol, y ddarpariaeth asesu a'r ddarpariaeth argyfwng. Gellir gosod hyd at saith o bobl ifanc o unrhyw rywedd yn y gwasanaeth ar unrhyw un adeg: pedwar yn yr uned asesu a thri yn yr uned argyfwng.
Mae Golygfa'r Dolydd yn cynnig amgylchedd therapiwtig i blant a phobl ifanc, gan ddefnyddio dull sy'n ystyriol o drawma i ddarparu'r cymorth mwyaf effeithiol posibl. Eu galluogi i ddeall eu hamgylchiadau unigol, datblygu sgiliau gwydnwch a hunanofal.
Mae gan Golygfa'r Dolydd Ddadansoddwr Ymddygiad Ardystiedig Bwrdd ar y safle sy'n cydlynu'r gwaith o asesu ac ymyriadau therapiwtig i bobl ifanc ac yn gweithio'n agos gyda'r staff i ddatblygu Cynlluniau Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol pwrpasol i leihau ymddygiad heriol a chynorthwyo newid ymddygiad cadarnhaol.
A chithau'n weithiwr preswyl plant sy'n arwain shifftiau, bydd angen i chi fod â chymwysterau addas yn unol â'r fframwaith cymwysterau a meddu ar brofiad digonol i gyflawni'r rôl hon. A chithau'n arweinydd shifft, byddwch yn cynorthwyo'r uwch-weithiwr wrth drefnu a chynllunio unrhyw shifftiau penodol. Bydd hyn yn aml yn lle'r uwch-weithiwr pan nad yw yno. Bydd hyn yn golygu bod yr ymgeisydd yn gyfrifol wrth arwain shifftiau, ac o bosibl bydd angen rheoli derbyniadau, ymadawiadau a gweithio gyda gweithwyr proffesiynol eraill fel gweithwyr cymdeithasol, yr heddlu, iechyd a gweithwyr addysg proffesiynol wrth i ni ddiwallu anghenion y plant sy'n byw yng Ngolygfa'r Dolydd. Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus fod wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.
A ydych yn teimlo eich bod am fod yng nghanol datblygiad parhaus y dull arloesol hwn o ofal? A ydych yn gallu gweithio'n hyblyg? A allwch weithio i'r safonau uchaf, gan sicrhau bod y cartref yn parhau i gydymffurfio â Gofynion Rheoliadol ac yn cynorthwyo plant a phobl ifanc i gyflawni'r canlyniadau gorau posibl? Os felly, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych!
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant ac Oedolion gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Cysgu i Mewn, Gweithio ar Benwythnosau yn un o ofynion y swydd hon.
Dyddiad Cau: 24 Rhagfyr 2025
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 29 Rhagfyr 2025
Dyddiad y Cyfweliad: 06 Ionawr 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person