36 awr yr wythnos
Mae gwasanaethau cartref mewnol Cymorth Gartref yn darparu amrywiaeth o wasanaethau gofal a chymorth cartref ar draws Bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr sy'n cynnwys y Gwasanaeth Sefydliadau Diogel (Carchar).
Rydym yn ceisio recriwtio Weithiwr Gofal Cymdeithasol i ymuno â thîm gofal cymdeithasol sefydledig yng Ngharchar y Parc Pen-y-bont ar Ogwr.
Bydd yn ofynnol i chi weithio 36 awr yr wythnos fel rhan o'r gofynion rota, mae patrymau shifft yn seiliedig ar shifft 13 awr y dydd, oherwydd yr amgylchedd lle byddwch wedi'ch lleoli a'r mesurau risg a diogelwch sydd yn eu lle i ddiogelu'r carcharorion a'r gweithlu yng Ngharchar y Parc. Yn ystod eich shifft, byddwch yn cael cyfle i ymgymryd ag E-ddysgu a hyfforddiant perthnasol arall sy'n ymwneud â'ch rôl, bydd goruchwylio ac arfarnu hefyd yn cael eu cynnal gyda'ch Arweinydd Tîm.
Bydd eich dyletswyddau'n cynnwys darparu gofal personol i garcharorion sydd ag anghenion gofal a chymorth e.e. cynorthwyo unigolion i ymolchi, gwisgo, rheoli eu gofal ceg, cynorthwyo a'u cefnogi gyda'u hanghenion o ran mynd i'r toiled. Cefnogi a chynorthwyo â throsglwyddiadau symud ac ymdrin gan gefnogi unigolion sy'n byw gyda dementia. Darperir hyfforddiant llawn.
Rydym yn chwilio am bobl sydd â'r gwerthoedd cywir, sy'n gadarnhaol ac yn ofalgar ac sy'n gallu cyfrannu a gwneud gwahaniaeth i fywydau unigol. Gallu gweithio mewn amgylchedd sy'n gallu cyflwyno heriau. Mae sgiliau cyfathrebu da a'r gallu i weithio fel rhan o dîm aml-fedrus proffesiynol yn bwysig.
Mae'r gwasanaeth yn gweithredu 7 diwrnod yr wythnos, 365 diwrnod y flwyddyn, rhwng 7.30am a 8.30pm yn bennaf. Fel rhan o dîm, bydd eich patrwm gwaith yn cynnwys rhai penwythnosau a gwyliau banc a byddwch yn cael hysbysiad ymlaen llaw o'ch diwrnodau gwaith a gorffwys sydd wedi'u trefnu.
Bydd y swydd hon yn gofyn am wiriadau diogelwch cadarn gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder, hyfforddiant Deiliad Allweddi, a hunanamddiffyn gyda G4S cyn dechrau'r swydd hon
Yr hyn rydym yn ei gynnig
Mae gennym Dîm Dysgu a Datblygu cefnogol iawn sy'n darparu amrywiaeth ardderchog o gyrsiau hyfforddi. Byddwch yn cael eich cynorthwyo i fynychu hyfforddiant a fydd yn gwella ac yn datblygu eich gwybodaeth a'ch sgiliau ymhellach ac yn cefnogi eich dilyniant gyrfa.
Goruchwyliaeth reolaidd, arfarniad blynyddol, hyfforddiant a mentora
Cyfleoedd i ddod yn Llysgennad Tîm lle byddwch yn mynd i gyfarfod wyneb yn wyneb gyda'r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant. Mae'r cyfarfodydd hyn wedi'u cynllunio i roi cyfleoedd i gyflogeion gyfrannu at gynllunio'r broses o ddarparu gwasanaethau yn y dyfodol
Byddwn yn darparu dillad gwaith, Bathodyn Adnabod, Cyfarpar Diogelu Personol, byddwch yn cael eich rotâu wythnosol a diweddariadau gan eich Arweinydd Tîm sy'n trefnu eich rotâu wythnosol.
Rydym yn cynnig pecyn cyflogau a buddiannau cystadleuol, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, ac aelodaeth o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol. Gellir cael mynediad at fuddiannau eang i staff hefyd drwy gynllun gwobrwyo staff y cyngor, sy'n cynnig amrywiaeth o ostyngiadau ar-lein neu yn y stryd fawr ledled y wlad ac yn lleol. Fel gweithiwr gofal gallwch wneud cais am y Cerdyn Golau Glas i fwynhau hyd yn oed mwy o ostyngiadau
Hefyd, fel rhan o ymrwymiad parhaus i gynorthwyo cyflogeion i reoli eu llesiant a'u cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, mae gennym nifer o gynlluniau cefnogi gan gynnwys rhaglen cymorth i weithwyr sy'n cynnig gwasanaeth cwnsela cyfrinachol, arbenigwyr gwybodaeth ac adnoddau llesiant ar-lein a rhyngweithiol.
Gallwch hefyd brynu Gwyliau Blynyddol Ychwanegol yn ogystal ag Absenoldeb Rhiant, Amser o'r Gwaith ar Gyfer Pobl Ddibynnol ac Absenoldeb Arbennig.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu cyfarch cwsmeriaid yn Gymraeg
I ddysgu rhagor am rôl y swydd ffoniwch Angela Davies neu Claire James, Rheolwyr Gweithredol ar 01656 815010 / 642748 i gael rhagor o wybodaeth.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae gwiriad gan Heddlu De Cymru yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae trwydded yrru ddilys yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 10 Goffennaf 2024
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 11 Goffennaf 2024
Dyddiad y Cyfweliad: 30 Goffennaf 2024
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person