30 awr yr wythnos
Wedi'i leoli yn adeilad ARC yng Nghanol Tref Pen-y-bont ar Ogwr, mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â thîm sefydledig sy'n cynnig amrywiaeth eang o gymorth iechyd meddwl cymunedol ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Bydd deiliad y swydd yn gweithio gyda Rheolwr Tîm ARC, a thîm Asesu ARC, gan gynnwys Therapyddion Galwedigaethol i ddarparu asesiad o anghenion defnyddwyr gwasanaethau a chynllunio a chyflawni cymorth dilynol.
Dylai deiliad y swydd feddu ar lefel dda o addysg, sy'n cyfateb i FfCCh lefel 4 mewn iechyd a gofal cymdeithasol, Cyngor a Chyfarwyddyd, neu debyg, a dylai fod â phrofiad o weithio mewn gwasanaethau iechyd meddwl.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Oedolion gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 25 Tachwedd 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 27 Tachwedd 2026
Dyddiad y Cyfweliad: 04 Rhagfyr 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person