2 x 30 awr yr wythnos swyddi ar gael
Rydym ar daith uchelgeisiol i gyflawni dull gwirioneddol gydgynhyrchiol o weithio gyda phobl a'u gofalwyr. Credwn fod gan bawb gryfderau a'n cenhadaeth yw cynorthwyo pobl i gynnal eu hannibyniaeth er mwyn iddynt allu byw eu bywydau yn dda, credwn fod hyn yn dechrau ar y pwynt cyswllt cyntaf â'r adran. Mae ein “Model Ymarfer sy'n Seiliedig ar Gryfderau” yn cefnogi dull amlddisgyblaethol o alluogi a chynorthwyo pobl sy'n byw gyda phroblemau a achosir gan anabledd, eiddilwch a heneiddio.
Rydym yn awyddus i benodi Gweithiwr Cymdeithasol rhan-amser a fydd wedi'i leoli yn y Ganolfan Ymyrryd ac Atal yn Gynnar, sy'n cynnwys y gwaith cymdeithasol tymor byr, gweithwyr cymorth cymunedol a'r ymateb drws blaen mewn Gofal Cymdeithasol i Oedolion. Mae'r tîm yn cefnogi dull amlddisgyblaethol, gan ganolbwyntio ar oedolion sydd ag anghenion cymhleth amlweddog a dirywiad gwybyddol. Mae'r gwasanaeth hwn yn canolbwyntio ar ganlyniadau i unigolion, gan sicrhau'r potensial mwyaf posibl a lleihau risg i annibyniaeth, gyda phwyslais ar ddewis a rheolaeth.
Gradd gydnabyddedig mewn gwaith cymdeithasol a chofrestru gyda Chyngor Gofal Cymru yn hanfodol.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Oedolion gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae trwydded yrru ddilys yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 19 Chwefror 2025
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 20 Chwefror 2025
Dyddiad y Cyfweliad: 25 Chwefror 2025
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person