Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn chwilio am bobl ofalgar, dosturiol sydd am ymuno â'n timau gwasanaethau darparwyr anhygoel a'n helpu i ddarparu dull gofal a chymorth sy'n canolbwyntio ar y person a galluogol.
Rydym yn darparu amrywiaeth o wasanaethau gofal a chymorth sy'n cynnwys:-
Byw â Chymorth, Seibiannau Byr a Llety Brys i bobl ag Anableddau Dysgu a/neu anawsterau iechyd meddwl
Gofal Preswyl i Bobl Hŷn a phobl â Dementia
Cymorth Gartref – yn y gymuned a thelir lwfans am deithio rhwng galwadau
Gwasanaethau Llety Gofal Ychwanegol sy'n darparu cymorth i bobl dros 60 oed
Mae'r rôl hon yn cynnig hyblygrwydd i chi, dewis o oriau yr hoffech ymrwymo iddynt, a'r cyfle i gael profiad o weithio ym maes gofal cymdeithasol.
Mae profiad yn cael ei groesawu, ond nid oes ei angen; credwn mai pwy ydych chi fel person a'r gwahaniaeth y gallwch ei wneud sy'n bwysig. P'un a ydych yn newydd i'r rôl neu wedi cefnogi pobl yn flaenorol, rydym am glywed gennych; y cyfan rydym yn ei ofyn yw bod gennych angerdd i wneud newidiadau cadarnhaol i fywydau pobl.
Ymrwymiad Pen-y-bont ar Ogwr i chi
Rhaglen sefydlu a fydd yn rhoi'r hyder i chi ymgymryd â'ch rôl.
Cyfleoedd hyfforddiant a datblygiad proffesiynol parhaus i wella eich sgiliau a'ch gwybodaeth.
Cyflog cystadleuol yn amrywio o £12.59 - £16.78 yr awr sy'n cynnwys cyfraddau uwch ar gyfer penwythnosau.
Cyfradd dros nos / noson effro £16.51 yr awr gyda thaliadau chwyddo ar benwythnosau
Lwfans teithio 47c y filltir (yn benodol i wasanaethau Cymorth Gartref)
Amrywiaeth o shifftiau/oriau ar gael sy'n addas i'ch amgylchiadau
Hawl i wyliau blynyddol.
Mynediad at gynlluniau gwobrwyo staff sy'n cynnwys gostyngiadau ar deithio, siopa, diwrnodau allan, moduro a llawer mwy.
Cymorth iechyd a llesiant galwedigaethol.
Cyfrifoldebau
Darparu cymorth sy'n canolbwyntio ar y person sydd wedi'i deilwra i anghenion unigol; hyrwyddo a galluogi annibyniaeth ac annog pobl i wneud dewisiadau gwybodus
Rhoi cymorth gydag agweddau ar fywyd bob dydd a nodwyd yng nghynlluniau gofal a chymorth unigolion a allai gynnwys deiet/paratoi bwyd, hylendid personol, gwisgo ac ymddangosiad personol.
Gweithio fel rhan o dîm ochr yn ochr â gweithwyr cymdeithasol, therapyddion cysylltiedig ag iechyd a gwasanaethau generig
Cymryd rhan mewn sesiynau goruchwylio a chyfleoedd datblygu gyrfa fel y cytunwyd arnynt gyda'ch rheolwr a chymryd rhan weithredol mewn unrhyw hyfforddiant er mwyn cynnal eich datblygiad proffesiynol eich hun a chofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru a gwella cymhwysedd yn eich rôl
Deall yn llawn ac arsylwi ar bob mater sy'n ymwneud ag unigolion a staff gan sicrhau bod cyfrinachedd a chodau ymddygiad yn cael eu dilyn ar bob adeg.
Bod yn ymwybodol o'ch cyfrifoldebau eich hun o ran diogelu pobl mewn perygl a rhoi gwybod am unrhyw bryderon a allai roi'r unigolyn, chi, neu eraill mewn perygl
Gallu gweithio'n hyblyg, gan gynnwys rhai penwythnosau a gwyliau banc
Cymryd rhan weithredol a chyfrannu at ddatblygu cynlluniau sy'n canolbwyntio ar y person gan gynnwys asesiadau risg cadarnhaol a chanllawiau /arweiniad cysylltiedig lle y bo angen.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae trwydded yrru ddilys yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae Dyletswyddau Nos, Cysgu i Mewn, Gweithio ar Benwythnosau yn ofynion y swydd hon.
Dyddiad Cau: 11 Rhagfyr 2024
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person