37 awr yr wythnos
Cyfnod Penodol (12 mis)
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig cyfle gwych i chi ddatblygu eich gyrfa ym maes gofal cymdeithasol.
Rydym yn sefydliad myfyriol sy'n adeiladu ar ei gryfderau yn barhaus ac sy'n ymrwymedig i'r egwyddor mai'r ffordd fwyaf effeithiol o wella canlyniadau i'r holl Blant, Pobl Ifanc a Theuluoedd yw drwy ddarparu gwasanaethau hygyrch, cyffredinol. Ymunwch â ni a byddwch yn gweithio mewn amgylchedd gwobrwyol lle mae'r staff yn cael eu gwerthfawrogi.
Rydym yn chwilio am Swyddog Sgrinio profiadol a brwdfrydig i ymuno â'r tîm sgrinio Cymorth Cynnar a leolir yn MASH (Canolfan Ddiogelu Amlasiantaethol) sydd yr un mor ymroddedig â ni wrth weithio tuag at gyflawni canlyniadau cadarnhaol i blant a theuluoedd.
Mae gwaith MASH yn gydweithrediad agos ag asiantaethau partner fel Heddlu De Cymru ac Iechyd er mwyn cefnogi teuluoedd yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, ynghyd â diogelu ein plant mwyaf agored i niwed.
Rôl y Swyddog Sgrinio fydd sgrinio ac asesu atgyfeiriadau a gyflwynir ar gyfer Cymorth Cynnar. Nodi'r angen, y risg a'r cymorth sy'n ofynnol a chyfeirio i wasanaethau cymorth perthnasol ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Gwella ansawdd atgyfeiriadau a gyflwynir i Gymorth Cynnar a sicrhau bod y wybodaeth yn galluogi gwneud penderfyniadau cyflym a phriodol.
Bydd y swyddog sgrinio yn bwynt cyswllt ac arweiniad i blant, pobl ifanc a theuluoedd y mae angen cymorth arnynt ac yn gallu cynnig cyngor ac arweiniad ynghylch y gwasanaethau sydd ar gael. Gweithio gyda staff mewn timau Cymorth Cynnar a Diogelu i sicrhau eu bod yn gwbl ymwybodol o lwybrau atgyfeirio, proses a gwasanaethau sydd ar gael yn y fwrdeistref ac yn deall y rhain. Bod yn ymatebol ac yn hyblyg i atgyfeiriadau er mwyn cynorthwyo plant, pobl ifanc a theuluoedd wrth gael mynediad i'r gwasanaeth cywir ar yr adeg gywir ac ymgymryd ag asesiadau o anghenion teuluoedd yn ôl y galw.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Yn ogystal byddwch yn gallu datblygu eich gyrfa ymhellach gyda chyfleoedd datblygu a dyrchafu.
I gael rhagor o wybodaeth am y swydd ffoniwch Carolyn Jenkins Rheolwr Tîm MASH ar 01656 642320.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae trwydded yrru ddilys yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Dyddiad Cau: 24 Medi 2025
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 29 Medi 2025
Dyddiad y Cyfweliad: 06 Hydref 2025
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person