30 awr yr wythnos
Mae hon yn adeg gyffrous i ymuno â CBS Pen-y-bont ar Ogwr wrth i ni barhau i ailfodelu'r ffordd rydym yn diwallu anghenion plant y mae angen ein cymorth arnynt yn unol ag agenda Llywodraeth Cymru i roi terfyn ar elw mewn gwasanaethau preswyl plant yng Nghymru.
Mae Golygfa'r Dolydd yn lle hwyl a bywiog i weithio ynddo. Mae'r gwasanaeth yn ei gwneud yn ofynnol bod pob aelod o'r tîm yn ymroddedig, yn dosturiol ac yn y pen draw yn rhoi anghenion y plant yn gyntaf. Rhaid i aelodau'r tîm fod yn ymrwymedig i weithio mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar y person er mwyn diwallu anghenion y plant. Rhaid i bob aelod o'r tîm weithio'n dda gydag eraill a gweithio'n dda mewn tîm.
Mae Golygfa'r Dolydd yn gartref pwrpasol sy'n darparu gofal a chymorth i bobl ifanc rhwng 6 ac 17 oed. Mae'r gwasanaeth yn cynnwys dwy ran benodol, y ddarpariaeth asesu a'r ddarpariaeth argyfwng. Gellir gosod hyd at saith o bobl ifanc o unrhyw rywedd yn y gwasanaeth ar unrhyw un adeg: pedwar yn yr uned asesu a thri yn yr uned argyfwng.
Mae Golygfa'r Dolydd yn cynnig amgylchedd therapiwtig i blant a phobl ifanc, gan ddefnyddio dull sy'n ystyriol o drawma i ddarparu'r cymorth mwyaf effeithiol posibl. Eu galluogi i ddeall eu hamgylchiadau unigol, datblygu sgiliau gwydnwch a hunanofal.
Mae gan Golygfa'r Dolydd Ddadansoddwr Ymddygiad Ardystiedig Bwrdd ar y safle sy'n cydlynu'r gwaith o asesu ac ymyriadau therapiwtig i bobl ifanc ac yn gweithio'n agos gyda'r staff i ddatblygu Cynlluniau Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol pwrpasol i leihau ymddygiad heriol a chynorthwyo newid ymddygiad cadarnhaol.
Fel gweithiwr preswyl plant bydd angen i chi fod yn barod i gwblhau'r Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan fel rhan o'ch sefydlu, ac yna'r FfCCh lefel 2 a 3 mewn plant a phobl ifanc fel y'u rhestrir yn y fframwaith Cymwysterau ar gyfer y Sector Gofal Cymdeithasol yng Nghymru. Bydd angen i chi hefyd gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru ar ôl cwblhau eich cyfnod sefydlu.
Efallai y bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio ar draws y gwasanaethau preswyl eraill lle mae hyn yn ofynnol. Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn ymrwymedig i ddysgu, gwella a datblygu ei ymarfer yn unol â gofynion rheoliadol. Wrth i'r gwasanaeth barhau i ddatblygu a thyfu, bydd llwybrau a chyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol pellach.
A ydych yn teimlo eich bod am fod yng nghanol datblygiad parhaus y dull arloesol hwn o ofal? A ydych yn gallu gweithio'n hyblyg? A allwch weithio i'r safonau uchaf, gan sicrhau bod y cartref yn parhau i gydymffurfio â Gofynion Rheoliadol ac yn cynorthwyo plant a phobl ifanc i gyflawni'r canlyniadau gorau posibl? Os felly, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych!
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant ac Oedolion gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae cysgu i mewn, gweithio ar benwythnosau a dyletswyddau wrth gefn yn un o ofynion y swydd hon.
Dyddiad Cau: 17 Medi 2025
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 19 Medi 2025
Dyddiad y Cyfweliad: 02 Hydref 2025
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person