37 awr yr wythnos
Cyfnod Penodol am hyd at 24 mis
Mae'r Tîm Cymorth Busnes yn rhoi cymorth gweinyddol i amrywiaeth o wasanaethau a thimau rheng flaen yn y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant ar draws Gofal Cymdeithasol Oedolion a Phlant.
Rydym yn cynnig cyfle i rywun ymuno â'r Adran Gofal Cymdeithasol i Blant a dilyn rhaglen brentisiaeth a fydd yn rhoi'r sgiliau a'r profiad i chi ddilyn gyrfa ym maes gweinyddu busnes
Rydym am recriwtio Prentis Cymorth Busnes a fydd yn cynorthwyo i ddarparu cymorth clerigol i un o’n Timau Gofal Cymdeithasol Plant sydd wedi’i leoli mewn lleoliadau amrywiol ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Byddwn yn darparu hyfforddiant a phrofiad yn y gwaith i chi fel rhan o'r Fframwaith Prentisiaeth Gweinyddol, gan gynnwys cyflawni cymhwyster FfCCh Lefel 3 mewn Gweinyddu Busnes. Bydd eich dyletswyddau yn cynnwys diweddaru ac adalw gwybodaeth o gronfa ddata a system rheoli dogfennau electronig WCCIS, ac ymdrin ag ymholiadau dros y ffôn gan aelodau o'r cyhoedd ac asiantaethau partner.
Bydd angen i chi fod yn chwaraewr tîm cryf gyda Sgiliau TGCh ardderchog, ac mae profiad o ddefnyddio cynnyrch Microsoft Office, wedi'i gefnogi gan safon dda o addysg yn hanfodol. Byddwch yn gallu dangos sgiliau rhyngbersonol a threfnu gwych. Byddai profiad o ddefnyddio systemau gwybodaeth a gweinyddol yn fanteisiol. Yn ogystal, mae'r rôl yn gofyn am sgiliau dadansoddol da, hunangymhelliant a sgiliau amldasgio da.
Ni ystyrir ymgeiswyr sydd eisoes wedi cyflawni cymhwyster ar lefel gyfwerth neu uwch yn yr un maes pwnc, gan gynnwys lefel gradd. Hefyd, ni fydd ymgeiswyr sydd ar hyn o bryd yn derbyn cyllid Llywodraeth Cymru at ddibenion astudio yn gallu cael eu hystyried.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Eithriadau Cymhwyster Lefel 3/4/5: Ni ystyrir ymgeiswyr sydd eisoes wedi cyflawni cymhwyster, ar lefel gyfwerth neu uwch yn yr un maes pwnc, gan gynnwys lefel gradd yn yr un maes pwnc. Hefyd, ni fydd ymgeiswyr sydd ar hyn o bryd yn derbyn cyllid Llywodraeth Cymru at ddibenion astudio yn gallu cael eu hystyried.
Dyddiad Cau: 27 Tachwedd 2024
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 28 Tachwedd 2024
Dyddiad y Cyfweliad: 11 Rhagfyr 2024
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person